Lansiwyd Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC) yn ystod haf 2024, gyda’r drysau’n agor yn swyddogol yn yr hydref. Mae BULAC yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd (a staff a myfyrwyr). Rhoddir yr holl gyngor gan fyfyrwyr blwyddyn olaf y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Nod BULAC yw cyfuno’r angen am fynediad at gyfiawnder yn yr ardal leol, a pharhau i gysylltu’r Brifysgol â’r gymuned leol tra’n darparu addysg gyfreithiol glinigol eithriadol i’n myfyrwyr.
Mae hwn yn gyfle mor unigryw i fyfyrwyr ddatblygu profiad ymarferol ochr yn ochr â’u hastudiaethau er mwyn eu paratoi’n fedrus ar gyfer eu camau nesaf ar ôl graddio.
Cyfarwyddir y Clinig gan Tracey Horton, sy’n gyfreithiwr profiadol ac yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith, ac mae ganddi hanes eithriadol o reoli clinigau cyfreithiol llwyddiannus. Ochr yn ochr â Tracey, bydd Lois Nash, Darlithydd yn y Gyfraith, yn cynorthwyo, yn enwedig gydag ochr cyfrwng Cymraeg y gweithredu.
Os hoffech gael mynediad at BULAC i gael cyngor cyfreithiol am ddim, gweler tudalen we BULAC am ragor o wybodaeth.
Hefyd ar y dudalen we uchod, bydd myfyrwyr sy’n gweithio gyda Chlinig y Gyfraith yn rhannu blogiau yn rheolaidd, gan fyfyrio ar eu profiad a’u datblygiad fel cynghorwyr cyfreithiol.
I drefnu apwyntiad, e-bostiwch Bulac@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388411 os gwelwch yn dda.