Dan arweiniad yr Athro Lucy Huskinson, Dr Bethan Loftus, a Ms Lisa Sparkes, cynigiodd y digwyddiad hwn gyfle unigryw a hynod ddiddorol i archwilio’r cymhellion tywyll a gwyrdroëdig y tu ôl i weithredoedd erchyll llofruddion cyfresol. Trwy ddadansoddiad manwl ac astudiaethau achos, aethpwyd â’r gynulleidfa ar daith afaelgar i feddyliau a throseddau llofruddion cyfresol, gan daflu goleuni ar gymhlethdodau eu hymddygiad a’r effaith y maent wedi’i chael ar gymdeithas. Roedd y sgwrs hon yn herio ein dealltwriaeth o’r natur ddynol ac yn codi cwestiynau pwysig am natur drygioni a’r ffactorau sy’n gyrru unigolion i gyflawni troseddau erchyll o’r fath.
Archwiliodd y siaradwyr y patrymau, y cymhellion a’r ymddygiadau gwahanol sy’n nodweddiadol o lofruddion cyfresol, gan dynnu ar astudiaethau achos go iawn a damcaniaethau o seicoleg a throseddeg. Trwy archwilio ffigurau adnabyddus fel Dennis Rader, Ted Bundy ac Aileen Wuornos, cafodd y mynychwyr fewnwelediad i sut y gall anhwylderau personoliaeth, trawma, a dylanwadau amgylcheddol gydgyfeirio, gan arwain unigolion i gyflawni gweithredoedd treisgar dro ar ôl tro. Roedd y sgwrs hefyd yn rhoi sylw i rôl Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol wrth broffilio a chipio lladdwyr cyfresol, yn ogystal â’r effaith y mae’r ffigurau hyn yn ei chael ar ganfyddiadau’r cyhoedd a’r cyfryngau. Erbyn y diwedd, gadawyd y cyfranogwyr â dealltwriaeth ddyfnach o’r cymhlethdodau y tu ôl i achosion o’r fath, gan herio stereoteipiau syml a meithrin ymwybyddiaeth o agweddau tywyllach bodau dynol.
Wrth fyfyrio ar y sgwrs, dywedodd yr Athro Lucy Huskinson:
“Mae archwilio meddyliau’r rhai sy’n cyflawni gweithredoedd erchyll ac annifyr yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i’r natur ddynol. Nid bwystfilod yn unig yw llofruddion cyfresol; maen nhw’n unigolion sydd wedi’u siapio gan gymysgedd cymhleth o ffactorau seicolegol, cymdeithasol a biolegol. Mae eu hastudio yn datgelu cymhlethdodau’r cyflwr dynol a’r hyn sy’n ein gyrru ni i gyd. Rwy’n ei chael hi’n hynod ddiddorol sut mae llofruddion cyfresol yn ein hysgogi i ailfeddwl ein syniadau am foesoldeb, normalrwydd a phwyll. Roedd yn wych gweld theatr lawn o bobl wedi’u swyno gan y pwnc, a gobeithio ei fod wedi herio eu canfyddiadau ac wedi ysgogi meddwl newydd am lofruffion cyfresol.”
Ychwanegodd Dr Bethan Loftus: "Roedd y noson yn archwilio llofruddwyr cyfresol trwy lensys seicdreiddiad, athroniaeth, a throseddeg. Roeddem wrth ein bodd i gael cynulleidfa mor arbennig sydd – fel ni – â diddordeb mewn deall ffenomen llofruddion cyfresol yn well".
Ac wrth dynnu sylw at agwedd bwysig, nad yw’n derbyn sylw’n aml, dywedodd Ms Lisa Sparkes, “I ni, roeddem am ganolbwyntio ar y dioddefwyr hefyd. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n sefyll o flaen cynulleidfa yn siarad am un o fy hoff bynciau: Llofruddion Cyfresol Benywaidd. Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd, diolch i’r rhai a wnaeth y freuddwyd hon yn realiti ... Gobeithio nad oedd gormod o hunllefau wedi’r noson, a welwn ni chi yn y digwyddiad nesaf!”
Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog ac un sy'n enghreifftio pa mor amlweddog yw arbinegeddau staff Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Hynny i'r fath raddau nes bod modiwl ar Lofruddion Cyfresol a chwrs byr, sydd dal â llefydd ar ôl i bobl gofrestru ar ei gyfer am ddim, a ddechreuir 13eg Tachwedd: 'Understanding Serial Killers'!