Tâl salwch am cael ei ddiwygio o dan y mesur hawliau cyflogaeth newydd
Ella Edwards (Myfyriwr)
Yn Hydref 2024, datgelodd y Llywodraeth gynlluniau newydd i ddiwygio’r Bil Hawliau Cyflogaeth. Dywedodd y llywodraeth mai’r Bil hwn oedd “yr uwchraddiad mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth ac yn gam sylweddol tuag at gyflawni cynllun y llywodraeth hon i wneud i waith dalu.” Gyda chyflwyniad Bil Hawliau Cyflogaeth newydd mae’r llywodraeth yn datgan y bydd yr hawliau o amgylch tâl salwch yn cael eu “cryfhau.” Mae’r Bil newydd hwn yn cefnogi gweithwyr ac yn moderneiddio cyfraith cyflogaeth ym Mhrydain i ffitio’r model i weithlu heddiw. Mae’r paramedrau newydd ynghylch tâl salwch yn dangos ymdrechion y Llywodraeth i ddod yn fwy pro-weithwyr. Mae’r Bil yn rhan o’r cynllun i wneud i waith dalu a helpu’r economi i dyfu. Mi fydd o fudd i gymunedau, gweithwyr a busnesau.
Er gall rhai o'r mesuriadau ddod i rym bron yn syth, mae’r Bil yn ddiwygiad mor fawr i’r maes cyflogaeth efallai gymerith hyd at ddwy flynedd i’r newidiadau gael eu gweld yn y gweithle, gallai fod yn 2026 erbyn i rai o’r diwygiadau cael ei rhoi yn ei le. Mae hyn yn ymddangos fel dechrau araf, ond mae'n rhaid i’r Bil fynd drwy’r broses craffu yn gyntaf a rhaid ystyried bod y llywodraeth yn ceisio moderneiddio’r gyfraith sy’n ymwneud â chyflogaeth.
Yn Erthygl 187 o’r Bil Hawliau Cyflogaeth mae’r cyfyngiadau newydd wedi’u nodi ar gyfer tâl salwch statudol, gan gynnwys:
- Mae'r cyfnod aros am dâl salwch statudol wedi'i ddileu gan olygu ei fod ar gael o ddiwrnod cyntaf y salwch.
- Mae tâl salwch statudol wedi'i ymestyn i'r rhai sy'n ennill llai na'r cyfyngiadau enillion isaf.
Ar hyn o bryd er mwyn ennill tâl salwch rhaid bod gweithwyr wedi bod yn sâl am fwy na thri diwrnod yn olynol ac yn ennill o leiaf £123 yr wythnos ar gyfartaledd. Mae’r rhai sy’n ennill llai na £123 yr wythnos yn cael eu dosbarthu fel rhai sy’n ennill llai na’r cyfyngiadau enillion isaf a dim ond nawr sydd ganddynt yr hawl i dâl salwch statudol. Mae'r bil newydd yn gwneud tâl salwch yn fwy hygyrch ac yn decach i bob gweithiwr. Mae tâl salwch statudol ar gael i weithwyr hyd at 28 wythnos, mae hyn oni bai bod gan y cyflogwr gynllun tâl salwch wedi'i sefydlu.
Bydd y bil newydd hwn yn helpu pobl yn y gweithle i gael gwell hawliau gweithio a gallu hybu bywydau gwaith iachach.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar faterion cyfreithiol cyflogadwyedd. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.