Staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymuno â miloedd yn Llundain i brotestio yn erbyn llygru afonydd
Ymunodd staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor â thyrfa o filoedd yn Llundain i alw am fwy o weithredu i leihau’r llygredd sy'n mynd i mewn i afonydd a’r môr.
Trefnwyd yr orymdaith March for Clean Water gan River Action a'r ymgyrchydd Feargal Sharkey.
Prifysgol Bangor oedd y brifysgol gyntaf i ymuno â’r rhestr o gefnogwyr swyddogol y digwyddiad. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys Surfers Against Sewage, Clean Water Sports Alliance, Rhwyfo Prydain, Canŵio Prydain, RSPB, Sefydliad y Merched, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genweirio, yr Ymddiriedolaeth Afonydd, a Chymdeithas y Pridd.
Aeth grŵp o staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, wedi eu gwisgo mewn cotiau labordy gyda brand y brifysgol arnynt, i’r orymdaith gyda’r Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, yr Athro Christian Dunn.
Meddai’r Athro Dunn: “Gan fod hwn yn ddigwyddiad amhleidiol, sydd ddim yn rhoi’r bai am gyflwr ein hafonydd ar un elfen benodol o gymdeithas, roedden ni’n fwy na pharod i gymryd rhan.
“Ym Mhrifysgol Bangor, mae ein hymchwil a’n haddysgu’n arwain y ffordd o ran monitro llygryddion amrywiol mewn dŵr ac, yn hollbwysig, yn darganfod ffyrdd o dynnu’r llygryddion hynny o’n hafonydd gan ddefnyddio prosesau naturiol, neu ddatrysiadau ar sail natur, megis cynefinoedd gwlyptir.”
“Roedd yn wych mynd â grŵp mor frwd i lawr i’r orymdaith o’r brifysgol, ac rwy’n meddwl ein bod wedi creu argraff eithaf da gyda’n baneri.
Roeddem i gyd yn gwisgo cotiau labordy i ddangos pa mor bwysig yw gwyddoniaeth, megis yr ymchwil yr ydym yn ei wneud ym Mhrifysgol Bangor, wrth fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd,” meddai’r Athro Dunn.
Dywedodd Llywydd Undeb Bangor, Nida Ambreen, a oedd yn bresennol yn yr orymdaith: “Fel myfyrwyr, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, nid yn unig i astudio a dysgu, ond i sefyll dros ddyfodol ein planed. Mae dŵr glân yn hanfodol i’n cymunedau, ein hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol.
“Roeddem yn gwisgo dillad glas i symboleiddio afon o bobl, a chotiau labordy Prifysgol Bangor i gynrychioli elfen ymchwil yr orymdaith, gan ddangos mai brwdfrydedd ac ymrwymiad ar lefel prifysgol sy’n gyrru’r mudiad hwn. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd.
“Roedd bod yn rhan o’r orymdaith hon ochr yn ochr ag unigolion a sefydliadau eraill yn dangos pŵer gweithredu ar y cyd. Roedd gweld pobl o bob cefndir yn eirioli dros afonydd glanach ac iachach yn wirioneddol ysbrydoledig” meddai Nida Ambreen.