Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor i wneud astudiaeth arloesol ar tswnamis tanddwr o amgylch Antarctica
Mae academyddion Prifysgol Bangor yn rhan o dîm ymchwil rhyngwladol a fydd yn datblygu astudiaeth arloesol ar tswnamis tanddwr o amgylch Antarctica.
Bydd y grŵp, sydd wedi cael £3.7M i wneud y gwaith, ac yn cael ei arwain gan y British Antarctic Survey (BAS), yn gweithio gydag ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd yr ymchwil yn dadansoddi sut mae'r tswnamis tanddwr hyn yn cyfrannu at gymysgu yn nyfroedd y cefnfor, proses sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar systemau’r hinsawdd fyd-eang, llen rew'r Antarctig, ac ecosystemau’r môr. Yn ddiweddar, cyfarfu gwyddonwyr o’r project, a elwir yn POLOMINTS, ym mhencadlys BAS yng Nghaergrawnt i gwblhau cynlluniau i’r project, sy’n addo taflu goleuni ar y ffenomen newydd hon.
Mae'r project yn adeiladu ar ganfyddiadau diweddar sy'n herio’r gred draddodiadol am y grymoedd sy'n gyfrifol am gymysgu yn yr Antarctig. Yn hanesyddol, y gred oedd mai gwynt, llanw a cholli gwres oedd y prif resymau am gymysgu yn y cefnfor o amgylch y cyfandir.
Fodd bynnag, nododd y tîm yn ddiweddar y gall talpiau rhew sy'n torri oddi ar ymyl rhewlif mewn proses a elwir yn ymrannu, ddechrau tswnamis tanddwr - tonnau aml-fetr sy'n teithio'n gyflym o'r rhew, gan dorri a chynhyrchu hyrddiau pwerus o gymysgu yn y cefnfor. Mae cyfrifiadau cychwynnol yn awgrymu y gallai'r tswnamis hyn gystadlu ag effaith cymysgu a achosir gan y gwynt a chyfrannu mwy na’r llanw at ailddosbarthu gwres y cefnfor.
Meddai Kate Retallick, myfyrwraig PhD o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, “Bydd arbenigwyr mapio acwstig ym Mhrifysgol Bangor yn teithio i Antarctica ac yn ymchwilio i siâp rhew blaen y rhewlif yr holl ffordd i lawr i wely’r môr. Bydd yr ymchwil heriol hwn yn ein helpu i ddeall y broses o fynyddoedd iâ yn torri i ffwrdd ac yn cynhyrfu'r cefnforoedd."
Meddai’r Athro Katrien Van Landeghem, “Mae arbenigedd ein technegwyr a Kate, ein myfyrwraig PhD, yn hanfodol yma. Byddwn yn creu delweddu sonar tanddŵr o ymyl y rhew trwy lunio datrysiad pwrpasol gydag un o adlaisyddion aml-belydr Prifysgol Bangor - math o sonar a ddefnyddir i fapio gwely'r môr.
“Byddwn yn ei anelu i anfon tonnau sain i'r ochr, a byddwn wedyn yn eu derbyn ac yn cyfrifo'r pellter rhwng y cwch a blaen y rhew, mewn 3 dimensiwn. Bydd y gosodiad pwrpasol hwn yn digwydd o’r Erebus, y llong ymchwil fechan sy'n rhan o long fawr Syr David Attenborough. Bydd Kate yn mynd i Antarctica i wneud hyn yn ystod y 2 aeaf nesaf (hafau’r Antarctig).”
Arweinir POLOMINTS gan eigionegydd o BAS, yr Athro Mike Meredith.
Meddai, “Rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r diriogaeth wyddonol anghyfarwydd hon. Trwy ddysgu mwy am tswnamis tanddwr a'u dylanwad ar gymysgu yn y cefnfor, gallwn fireinio modelau cefnforol, a fydd yn eu tro yn helpu i ragamcanu senarios hinsawdd y dyfodol yn fwy cywir. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i’r gymuned fyd-eang wrth i ni fynd i’r afael ag effeithiau cymhleth newid hinsawdd.”
Er mwyn ymchwilio i raddau ac effeithiau'r tswnamis tanddwr hyn, bydd y tîm yn defnyddio technoleg uwch, gan gynnwys cerbydau tanddwr robotig ac awyrennau peilota o bell, i gasglu data ger rhewlifoedd sy’n ymrannu. Byddant hefyd yn defnyddio algorithmau dysgu dwfn i ddadansoddi data lloeren, ac efelychiadau cyfrifiadurol i fodelu cynhyrchiad a lledaeniad y tswnamis hyn. Bydd y dulliau blaengar hyn yn caniatáu i'r ymchwilwyr asesu effeithiau cymysgu dwys ar ffactorau sy'n hanfodol i hinsawdd ac ecosystemau, megis tymheredd y cefnfor, maetholion a chynhyrchiant morol.
Mae’r Scottish Association for Marine Science (SAMS) yn bartner allweddol yn y project.
Meddai’r Athro Mark Inall o SAMS, “Er bod gennym lawer o ddelweddau o fynyddoedd iâ yn ymrannu o rewlifoedd, ac wedi astudio tonnau mewnol y tu mewn i’r cefnfor, ni wyddom fawr ddim am ymrannu sy’n cynhyrchu’r tonnau mawr hyn sydd o’r golwg o dan wyneb y cefnfor. Bydd POLOMINTS yn torri tir newydd yn ein gwybodaeth am sut mae llenni rhew sy’n dadfeilio yn cythruddo cefnforoedd arfordirol ardaloedd pegynol.”
Yr Athro Kate Hendry o BAS sy'n cyd-arwain y project.
Meddai: “Mae ein project yn gam allweddol tuag at lenwi bylchau hollbwysig yn ein dealltwriaeth o ddylanwad Antarctica ar yr hinsawdd fyd-eang.”
Mae POLOMINTS yn gydweithrediad a arweinir gan y British Antarctic Survey, ac mae’n cynnwys y Scottish Association for Marine Science, Prifysgol Southampton, Prifysgol Leeds, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Bangor. Daw’r partneriaid rhyngwladol o’r Scripps Institution of Oceanography, yr Institute of Geophysics of the Polish Academy of Sciences, Prifysgol Delaware a Phrifysgol Rutgers.
Cyllidir POLOMINTS gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.’