Ymchwilydd Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP), Dr Luis Vallejo, yn cymryd Swydd Wyddonol am Gyfnod Byr (STSM) yn Universitat Politecnica de Valencia, Sbaen
Gwahoddwyd Dr. Luis Vallejo (Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol) i gymryd swydd wyddonol am gyfnod byr (STSM), gyda chefnogaeth project CA19111 - Rhwydwaith Ewropeaidd ar Dechnolegau Cyfathrebu Di-wifr Optegol Cenhedlaeth y Dyfodol (NEWFOCUS), yn y Labordai Ymchwil Ffotonig, Instituto de Telecomunicaciones ac Aplicaciones Multimedia (iTEAM), Universitat Politecnica de Valencia (UPV), Sbaen, o 17 Mai hyd at 16 Mehefin 2024.
Yn ystod ei ymweliad, o dan arweiniad yr Athro Beatriz Ortega, bu’n cynnal arddangosiadau arbrofol a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni cyfathrebu deublyg llawn mewn rhwydwaith di-wifr ffibr cydgyfeirio ar gyfer Beyond 5G (B5G), gan ddefnyddio laserau sy'n rhedeg yn rhydd ar gyfer cynhyrchu signal amledd uchel.
Yn ogystal, bu’n ymchwilio i integreiddio technolegau Cyfathrebu Di-wifr Optegol (OWC), yn enwedig Opteg Gofod Rhydd (FSO), i wella perfformiad a dibynadwyedd rhwydweithiau.
Arweiniodd y cydweithio hwnnw at gytundeb i gyhoeddi’r canfyddiadau ar y cyd. Yn ogystal, bu'r cydweithredu’n fodd i ennill profiad gwerthfawr mewn ffotoneg microdon integredig a sefydlu cysylltiadau personol cadarn. Yna, agorodd UPV a Phrifysgol Bangor sianel newydd ar gyfer cydweithio ar ymchwil, yr ydym yn ymrwymo i’w chynnal a’i chryfhau ar gyfer ymdrechion ar y cyd yn y dyfodol.