Mae Cronfa Bangor wedi galluogi myfyrwyr cerddoriaeth Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn dau ddigwyddiad pwysig a oedd yn cynnig datblygiad proffesiynol, cyfleoedd rhwydweithio a chyfle i hyrwyddo diwylliant, iaith a hunaniaeth Gymreig. Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr hael.
Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i fyfyrwyr cerddoriaeth weithio'n ddwyieithog gyda cherddorfa ac ensemble proffesiynol a datblygu eu technegau cyfansoddi a'u profiad o berfformio.
Yn y digwyddiad cyntaf, cynhaliodd Sinfonia Cymru, grŵp cerddoriaeth gyfoes blaenllaw o Gymru, weithdy gyda myfyrwyr yn Neuadd Powis. Perfformiwyd cyfansoddiadau’r myfyrwyr a chawsant chwarae gyda Sinfonia Cymru, ynghyd â Cerys Hafana (telyn) a Patrick Rimes (ffidil), unawdwyr o fri rhyngwladol, i hyrwyddo cerddoriaeth a diwylliant modern Cymru.
Yn yr ail ddigwyddiad, daeth Cronfa Bangor â phedwar cyfansoddwr ifanc o Gymru ynghyd i drafod eu gweithiau yng Ngŵyl Gerdd Bangor. Perfformiwyd eu cyfansoddiadau gan Ensemble Canolfan Gerdd William Mathias (ECGWM). Mae Gŵyl Gerdd Bangor, a sefydlwyd gan Dr Guto Puw, Darllenydd Cyfansoddi yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, yn canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes Gymreig. Roedd cyngerdd ECGWM yn cynnwys comisiynau a gweithiau newydd gan gyfansoddwyr sydd wedi ennill eu plwyf a chyfansoddwyr newydd. Bu myfyrwyr cerddoriaeth yn arsylwi ar ymarferion ac aethant i’r cyngerdd, gan ennill profiad o’r diwydiant a rhwydweithio gyda chyfansoddwyr.






Rydym yn hynod ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth barhaus i Gronfa Bangor. Mae eu cefnogaeth yn ei gwneud yn bosib i ni gefnogi projectau fel hyn, gyda’r nod o gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr, a chryfhau eu cysylltiad â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.