Fy ngwlad:
pupils in murder investiagation event

Datrys y Dirgelwch – Diwrnodau Ymchwilio i Lofruddiaeth Prifysgol Bangor 2024/25

Mewn cydweithrediad cyffrous gyda Heddlu Gogledd Cymru, cynhaliodd Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor ei hail Ddiwrnod Ymchwilio i Lofruddiaethau ym mis Rhagfyr 2024. Rhoddodd y digwyddiad clodwiw hwn gyfle ymarferol unigryw i ddisgyblion ysgol a choleg archwilio cymhlethdodau ymchwilio i droseddau a dadansoddi fforensig.