Myfyrwyr Hanes yn cynrychioli Prifysgol Bangor mewn Digwyddiad Take pART Event ag Amgueddfa Cymru
Diolch i Amgueddfa Cymru, rhoddwyd cyfle arbennig i ddau o'n myfyrwyr Hanes gwych, Eleanor Lees (Ellie) a Tomos Cahill, i weithredu fel Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn eu digwyddiad Take pART blynyddol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Venue Cymru, Llandudno!
Chwaraeodd Ellie a Tomos ran annatod wrth reoli stondin Amgueddfa Cymru yn y digwyddiad, gan weithio ochr yn ochr â staff Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a chynrychiolydd o Bloedd — grŵp o fewn Amgueddfa Cymru sy’n annog pobl ifanc 16–30 oed i ymgysylltu â gwaith yr amgueddfa.
Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y thema o gau ac ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, gan gynnig gweithgareddau ymarferol i ymwelwyr gan gynnwys gweithdai trin casgliadau, argraffu leino gyda stensiliau wedi'u dylunio gan y gymuned, ac addurno matiau diod llechi. Bu’r myfyrwyr hefyd yn cefnogi gweithgareddau a oedd yn efelychu cadwraeth casgliadau amgueddfeydd, megis pacio arteffactau a’u didoli ar sail paramedrau penodol.
Wrth adlewyrchu ar y diwrnod, dywedodd Ellie:
"Er imi flino'n arw, roedd y profiad yn amhrisiadwy. Datblygais sgiliau allweddol mewn gwaith treftadaeth ac ymgysylltu â phlant, tra hefyd yn ymarfer fy Nghymraeg - rhywbeth rwy'n awyddus i'w wella. Fe wnaeth gweithio gyda thîm o Amgueddfa Cymru a Bloedd roi cipolwg gwerthfawr i mi ar botensial llwybrau gyrfa gan lwyddo i ddyfnhau fy angerdd am y maes hwn."
Rydym yn hynod o falch o Ellie a Tomos am eu brwdfrydedd a’u cyfraniadau. Mae digwyddiadau fel hyn nid yn unig yn cyfoethogi’r gymuned ddiwylliannol ond hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu unigryw i’n myfyrwyr archwilio posibiliadau gyrfa yn y dyfodol.
Diolch unwaith eto i Amgueddfa Cymru, Bloedd, a thîm Amgueddfa Lechi Cymru am wneud y profiad hwn yn bosibl.
Am ragor o wybodaeth am Take pART neu waith Amgueddfa Cymru, gweler gwefan yr Amgueddfa.