Trwy roddion hael gan gyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor yn falch iawn o ariannu project Acwariwm o fewn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, sy'n canolbwyntio ar gadwraeth ac ecoleg. Nod y project yw amlygu ymchwil arloesol yr ysgol mewn dyframaeth pysgod riff cwrel, a chadwraeth ac ecoleg riffiau, gyda phwyslais arbennig ar y Project Acwariwm Cynaliadwy diweddar. (SNAP), sy’n dirnod rhaglen ymchwil i wella llwyddiant bridio acwariwm.
Ar ddiwedd 2024, bu staff a myfyrwyr yn cydweithio i osod yr acwariwm yng Nghanolfan Fôr Cymru. Mae'r acwariwm yn gartref i bysgod ac infertebratau a gynhyrchir gan staff a myfyrwyr uned dyframaeth yr ysgol. Mae'r tîm o naw myfyriwr a phedwar aelod o staff yn goruchwylio gwaith cynnal a chadw'r acwariwm o ddydd i ddydd, a’r gwaith ychwanegu pysgod ac infertebratau yn raddol. Mae'r project hwn wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr hyfforddi a datblygu sgiliau mewn hwsmonaeth anifeiliaid, technegau dyframaeth a rheoli acwariwm. Yn ogystal â hynny, mae myfyrwyr wedi cymryd rhan flaenllaw mewn datblygu ffeithluniau rhywogaethau gan roi cipolwg i'r gwyliwr ar astudiaethau natur y rhywogaethau sy'n cael eu harddangos.








Grŵp o fyfyrwyr gwirfoddolwyr mewn gweithdy gyda Dr. Timothy Whitton (Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Ecoleg, Ysgol Gwyddorau Eigion) a Dr Craig Robertson (Darlithydd Bioleg y Môr, Ysgol Gwyddorau Eigion)
Mae’r acwariwm wedi creu canolbwynt i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae’n gweithredu fel arf llesiant, gan ddarparu effeithiau iechyd cadarnhaol, wrth annog dysgu a thrafodaeth rhwng staff a’n myfyrwyr am anifeiliaid dyfrol yn yr acwariw
Rydym yn falch iawn o gefnogi projectau fel hyn. Diolch i'n cyn-fyfyrwyr hael am gyfrannu at Gronfa Bangor. Diolch i’w cefnogaeth nhw y mae myfyrwyr yn gallu gweithio ar brojectau cynaliadwy fel hyn.