Mae Cronfa Bangor yn galluogi gweithgareddau lles myfyrwyr
Mae Cronfa Bangor wedi galluogi Undeb y Myfyrwyr i gynnal gweithgareddau lles grwpiau myfyrwyr ac arweinwyr myfyrwyr, oedd yn dod â myfyrwyr o wahanol glybiau a chymdeithasau ynghyd. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Arweinydd Rhwydwaith Ôl-radd, Cymdeithas Affro Caribïaidd, ac Arweinydd Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol.
Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys sesiynau peintio ac ymlacio, teithiau natur, gwerthfawrogi bywyd gwyllt, gweithdai Techneg Alexander, a digwyddiad iechyd a lles.
Cafodd y digwyddiadau hyn effaith fawr ar fywydau llawer o fyfyrwyr. Trwy rymuso myfyrwyr i drefnu ac arwain y gweithgareddau hyn, fe wnaethom eu galluogi i gymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau cyfoethog.
Diolch i’n cyn-fyfyrwyr hael a’u cefnogaeth ddiwyro y gallwn gynnig gweithgareddau cyfoethogi sy’n cyfoethogi profiadau ein myfyrwyr yn sylweddol, ac sy’n hybu eu lles cyffredinol.