Barcutiaid a Diwylliant yn Ysgol Penmachno!
Cynhaliodd Ysgol Penmachno weithdy Blwyddyn Newydd Tsieineaidd cyffrous ar 21 Ionawr, lle bu myfyrwyr yn cofleidio ysbryd yr ŵyl trwy weithgaredd peintio barcud bywiog. Wedi'i chyflwyno gan diwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, roedd y sesiwn yn cyfuno creadigrwydd â dysgu diwylliannol, gan ddarparu dathliad diddorol a chyfoethog.
Mae barcutiaid yn arwyddocaol yn niwylliant Tsieina. Maent yn symboleiddio llawenydd, rhyddid, a'r dymuniad am lwc dda. Yn ystod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, caiff barcutiaid yn aml eu hedfan i gael gwared ar anlwc ac i groesawu egni cadarnhaol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Yn y gweithdy, aeth y myfyrwyr ati i archwilio’r cysylltiadau diwylliannol hyn wrth addurno barcutiaid gyda lliwiau llachar a chynlluniau cywrain wedi'u hysbrydoli gan gelf Tsieineaidd draddodiadol.
Roedd y gweithdy'n cynnig mwy na phrofiad artistig yn unig - roedd yn cyflwyno’r myfyrwyr i'r gwerthoedd a'r traddodiadau y tu ôl i ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, gan feithrin gwell dealltwriaeth o amrywiaeth ddiwylliannol. Roedd athrawon Ysgol Penmachno’n llawn canmoliaeth am y digwyddiad, gan rannu eu hadborth cadarnhaol:
"Roedd yr adnoddau'n lliwgar ac yn ddiddorol."
"Roedd y tiwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn barod i helpu'r plant."
"Roedd y disgyblion yn mwynhau ymarfer geiriau Tsieinëeg ac yn gwerthfawrogi derbyn sticeri fel gwobrau."
“Diolch yn fawr iawn am ddod - mae’r disgyblion a’r staff wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr."
Daeth y digwyddiad i ben gydag arddangosfa o'r barcutiaid wedi'u paentio, wrth i fyfyrwyr arddangos eu creadigaethau’n falch, ac adfyfyrio ar yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu. Mynegodd athrawon a myfyrwyr gyffro ynghylch gweld y barcutiaid lliwgar yn yr awyr, a oedd yn nodi dathliad llawen a chofiadwy o'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.