Ysgolion Gaeaf yn Grymuso dros 120 o Fyfyrwyr â Meddwl Beirniadol a Dealltwriaeth o Ddiwylliant Prydain!
Llwyddodd Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â’r Confucius Institute Office yn y China University of Political Science and Law (CUPL), i gynnal dwy ysgol aeaf drawsnewidiol fis Ionawr eleni. Cynhaliwyd y rhaglenni ar 13–24 Ionawr 2025, gan ddod â dros 120 o fyfyrwyr at ei gilydd a oedd yn awyddus i wella eu sgiliau meddwl beirniadol, eu sgiliau ysgrifennu academaidd a’u gwybodaeth am ddiwylliant Prydain.
Darparodd yr ysgol aeaf meddwl beirniadol yr adnoddau angenrheidiol i gyfranogwyr ddadansoddi problemau cymhleth, gwerthuso dadleuon a gwneud penderfyniadau rhesymegol. Croesawodd yr Athro Li Juqian, cyfarwyddwr yr International Cooperation and Exchange Office, y myfyrwyr i'r cwrs. Yn ei anerchiad agoriadol, pwysleisiodd bwysigrwydd meddwl yn feirniadol mewn sefyllfaoedd academaidd a phroffesiynol, gan nodi, “mae’r cwrs hwn yn cynnig y sgiliau i chi ddod o hyd i’ch ffordd trwy gymhlethdodau ac ymdrin â heriau gyda meddylfryd adfyfyriol a gwybodus.”
Ar yr un pryd, roedd ysgol aeaf diwylliant Prydain ac ysgrifennu academaidd yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr CUPL ymgolli yn nhraddodiadau Prydain a gwella eu sgiliau siarad ac ysgrifennu Saesneg. Roedd yr Athro Cynorthwyol Li Dandan, Cyfarwyddwr Confucius Institute Office yn CUPL, yn bresennol hefyd ac anogodd y myfyrwyr i wneud yn fawr o'r profiad cyfoethog hwn. Meddai, “Mae hwn yn gyfle gwych i wella eich hyfedredd yn yr iaith Saesneg ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant ac arferion academaidd Prydain.”
Roedd y ddwy raglen yn llwyddiant ysgubol. Canmolodd y myfyrwyr natur ymarferol a difyr y cyrsiau, a oedd yn cynnig gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr sy'n berthnasol i'w hastudiaethau a thu hwnt.
Mae'r cydweithio rhwng Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a CUPL yn adlewyrchu eu hymrwymiad ar y cyd i feithrin cyfnewid a dysgu rhyngwladol. Mynegodd y trefnwyr falchder yn llwyddiannau’r ysgolion gaeaf ac edrychant ymlaen at gydweithio pellach sy’n grymuso myfyrwyr i ffynnu mewn byd rhyng-gysylltiedig.