Traddodiadau Crefft: Ysgol Friars yn Nodi’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Gweithdai Creadigol!
Croesawodd myfyrwyr Ysgol Friars, Ystafell Ddosbarth Confucius, Flwyddyn y Neidr gyda diwrnod o weithdai ymarferol dan arweiniad Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Trwy sesiwn gelf a chrefft ymarferol, profodd myfyrwyr draddodiadau cyfoethog y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, gan danio creadigrwydd wrth ennill gwerthfawrogiad diwylliannol dyfnach.
'Roedd y myfyrwyr yn cymryd rhan lawn yn y sesiwn, ac roedd yn wych gweld eu brwdfrydedd a'u creadigrwydd ar waith', meddai Chris Williams o Ysgol Friars.
Wrth i Flwyddyn y Neidr fynd rhagddi, edrychwn ymlaen at fwy o gyfnewidiadau a dathliadau diwylliannol ar draws y rhanbarth!