Dathliad Ysblennydd o Flwyddyn y Neidr ym Mhontio – yn dod â'r Gymuned Ynghyd!
Ddoe, roedd Pontio’n fôr o liw, cerddoriaeth a dawns wrth i gymuned Bangor ymgynnull i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Cafodd y diwrnod llawn sbri ei drefnu gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, a daeth teuluoedd, myfyrwyr, ac aelodau o'r gymuned Tsieineaidd leol i fwynhau profiad diwylliannol bywiog a hudolus.
Trwy gydol y dydd, mwynhaodd pawb yr amrywiol weithgareddau, gan gynnwys gweithdai celf a chrefft difyr a oedd yn boblogaidd iawn gan y teuluoedd. Roedd y gweithdy dawns yn uchafbwynt mawr. Ymunodd pobl o bob oed yn yr hwyl yn llawn brwdfrydedd. Cafodd y cynulleidfaoedd eu swyno gan berfformiadau cerddorol a Thai Chi, a ychwanegodd at awyrgylch yr ŵyl.
Daeth y dathliadau i ben gyda pherfformiad gala arbennig gan diwtoriaid Sefydliad Confucius Prifysgol Goldsmiths. Roedd yr arddangosfa o gelfyddydau Tsieineaidd traddodiadol yn deyrnged deilwng i dreftadaeth gyfoethog ac arwyddocâd diwylliannol yr achlysur.
Canmolodd y Cynghorydd Gareth Parry, Maer Bangor, lwyddiant y digwyddiad, gan ddweud:
“Diolch o galon i’r holl berfformwyr anhygoel a roddodd o’u hamser a’u hegni i wneud y diwrnod yn un mor hudolus. Diolch o galon hefyd i'r criw cefn llwyfan y bu eu gwaith caled yn fodd i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth, ac i Sefydliad Confucius am eu hymroddiad diwyro i ddod â diwylliant Tsieina i Ddinas Bangor. Roedd yn ddathliad bythgofiadwy o Flwyddyn y Neidr ac ni fuasai’n bosibl heb gyd ymdrechion cymaint o unigolion dawnus. Diolch am wneud y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Ninas Bangor yn un mor arbennig!”
Roedd Sefydliad Confucius yn falch iawn o’r ymateb gwych, a bod cynifer o aelodau’r gymuned, Prifysgol Bangor, a’r gymuned Tsieineaidd wedi dod ynghyd i nodi’r achlysur. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i rannu a gwerthfawrogi diwylliant Tsieina, ac mae ei lwyddiant yn dangos y diddordeb cynyddol sydd mewn cyfnewid diwylliannol ym Mangor.
Blwyddyn y Neidr Dda i bawb!