Archwilio treftadaeth gyda’n gilydd: Cyn-filwyr a Phrifysgol Bangor yn dod ynghyd
Ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Ionawr, croesawodd staff Archaeoleg a Threftadaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas 30 o gyn-filwyr a staff o Alabaré Homes for Veterans yng ngogledd a de Cymru i gyfarfod i archwilio’r sawl ffordd y gall y gymuned cyn-filwyr gyfrannu at ddatgelu'r gorffennol yng ngogledd Cymru.
Cyflwynodd Dr Gary Robinson feysydd addysgu a chryfderau ymchwil y maes pwnc, ac archwiliodd y sawl ffordd y gall y grŵp gymryd rhan yn yr ysgol, trwy brojectau dysgu yn y cnawd a dysgu o bell.
Siaradodd Dr Kate Waddington, Dr Leona Huey a Dr Karen Pollock am ein dau broject ymgysylltu cymunedol allweddol – Ecoamgueddfa Llŷn a Phroject Dorothea – a fydd yn meithrin cyfleoedd i’r cyn-filwyr ymgysylltu ymhellach â threftadaeth, iaith a diwylliant, a chymryd rhan mewn projectau ymarferol ar lawr gwlad. Roedd y sgyrsiau gyda'r nos yn cynnig trafodaeth bellach ar gydweithrediadau a chyfleoedd dysgu yn y dyfodol.
Yn ystod sesiwn trin gwrthrychau Rhufeinig yn y prynhawn yn Storiel, cafodd y grŵp eu cyflwyno i’r casgliadau Prifysgol eang sy’n eu defnyddio wrth addysgu, a chawsant daith o amgylch Porth Coffa hardd y Brifysgol.
Lansiodd y digwyddiad gydweithrediad newydd rhwng yr ysgol ac Alabaré, gyda rhai gwesteion nodedig yn bresennol; Alastair Carns DSO OBE MC AS, Gweinidog dros Gyn-filwyr a Phobl; James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru; a Roxanne Brind o'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr.
Roedd geiriau Mike, cyn breswylydd Alabaré, wedi cyffwrdd pawb. “Mae bod yma, gyda phob un ohonoch, yn dysgu am dreftadaeth a chysylltu â’r grŵp hwn - mae wedi bod yn anhygoel.”
Pwysleisiodd Dr Kate Waddington bŵer archaeoleg gyhoeddus, “Rhaid i’n gwaith ymwneud â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, dod â hanes yn fyw, a gwneud treftadaeth yn hygyrch ac yn ddylanwadol.”
Bu’r Gweinidog Alastair Carns yn trafod ymdrechion i wella cefnogaeth i gyn-filwyr ledled Cymru a Lloegr, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mynediad symlach at adnoddau wedi’u teilwra i anghenion daearyddol penodol, gan gynnwys anghenion cyn-filwyr benywaidd a lleiafrifol. Tynnodd sylw at yr ewyllys da o fewn y rhwydwaith cefnogaeth i gyn-filwyr, gan nodi, “Gyda biliwn o bunnoedd o gyllid a bron i 2,000 o sefydliadau yn cefnogi cyn-filwyr, yr her yw sut i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.”
Gan gyfuno arbenigedd staff ym Mhrifysgol Bangor ag ymroddiad staff Alabaré ac ymrwymiad arweinwyr y llywodraeth, bydd y bartneriaeth yn gweithio i greu cyfleoedd newydd i gyn-filwyr gysylltu, dysgu, a ffynnu. Hwyluswyd y cyfarfod gyda chymorth Simon Frith, Rheolwr Menter Lles yn Alabare, a Tim Jones, Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, a wnaeth y cyswllt cychwynnol.
Dywedodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol, “Roedd hwn yn ddigwyddiad ffantastig. Roedd y cyn-filwyr wedi mwynhau’r ddau ddiwrnod yn fawr. Mae gan yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas draddodiad balch o ymgysylltu â’r gymuned, ac mae ein cydweithwyr Treftadaeth ac Archaeoleg wedi chwarae rhan ganolog wrth gyflwyno digwyddiadau dros nifer o flynyddoedd. Byddwn nawr yn datblygu ein partneriaeth ag Alalbare i helpu eu gwaith rhagorol trwy eu cefnogi i adsefydlu cyn-filwyr trwy wahanol gyfleoedd dysgu.”