Cynhaliodd tîm o Brifysgol Bangor yr astudiaeth mewn cyfnod o bryder cynyddol bod poblogaethau ceirw yn tyfu ac yn cael effaith negyddol ar iechyd ac adfywiad coetiroedd y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, yn ôl y canfyddiadau “annisgwyl” a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol Ecological Solutions & Evidence, gall ceirw fod yn fuddiol o dan rai amgylchiadau.
Darganfu'r ymchwilwyr fod y ceirw’n bwyta llawer iawn o fieri, a allai leihau tyfiant y planhigyn hwnnw a'i rwystro rhag trechu rhywogaethau llwyni a choed ifanc bregus.
Treuliodd yr ymchwilwyr ddwy flynedd yn astudio deiet danasod (Dama dama) yn Nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych. Deilliodd y boblogaeth hon o ystâd fawr pan dynnwyd ffensys y parc ceirw i lawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ers hynny, mae'r ceirw wedi ehangu eu cwmpas i'r cefn gwlad amgylchynol ac maent yn achosi pryderon o ran cadwraeth bioamrywiaeth, adfywio coetiroedd a chynhyrchu pren.
Mae'r tîm ymchwil, a leolir yn y labordy Ecoleg ac Esblygiad Moleciwlaidd ym Mangor, yn defnyddio technoleg newydd - metabarcod DNA - i ddilyniannodi DNA planhigion sy’n bresennol mewn tua 350 o samplau o faw danasod Casglwyd y rhain mewn tri choetir yn ardal Dyffryn Elwy yn y gwanwyn, yr haf, yr hydref a’r gaeaf, rhwng 2019 a 2021.
Nododd y tîm ymchwil y planhigion oedd yn bresennol yn y baw i greu proffil o'r deiet ar draws y tymhorau. Gwnaethant ddarganfod mai mieri (Rubus fruticosus ag.) oedd prif fwyd y ceirw drwy gydol y flwyddyn, ac yn cyfrif am 80% o’u deiet yn ystod misoedd y gaeaf. Llwyni a choed llydanddail oedd fwyaf amlwg yn eu deiet yn ystod y gwanwyn a'r haf, a dim ond mewn ychydig iawn o samplau oedd coed conwydd i'w gweld.
Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a Rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau Cymru. Casglodd ceidwaid y Sw Mynydd Cymru samplau o faw o’u gyr o ddanasod caeth, a ddefnyddiwyd i ddilysu’r canlyniadau o samplau baw ceirw gwyllt. Derbyniodd yr astudiaeth gymorth cyfrifiadura gan broject Uwchgyfrifiadura Cymru, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Amy Gresham, a arweiniodd yr astudiaeth yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig PhD yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor,
“Roedd canlyniadau’r astudiaeth hon yn annisgwyl. Roeddem yn disgwyl y byddai'r danasod yn pori'n bennaf ar y glaswelltiroedd toreithiog ym mhorfeydd yr ardal, gan newid eu deiet dros y gaeaf i bori ar goed gan fod llai o fwyd ar gael y tu allan i'r tymor tyfu planhigion.
“Mewn gwirionedd, gwelsom fod amrywiaeth eu deiet yn culhau dros y gaeaf, a mieri oedd yr adnodd bwyd amlycaf.
“Gall mieri ddiogelu coed ifanc rhag ceirw trwy ddarparu rhwystr pigog, fodd bynnag gall mieri hefyd fygu llwyni a choed ifanc, a blodau coetir prin, nad ydynt yn gallu dioddef gormod o gysgod. Mewn gwirionedd, gall ceirw reoli tyfiant mieri a’i atal rhag trechu coed ifanc a phlanhigion coetir eraill.
“Os gallwn ddeall mwy am yr hyn y mae ceirw yn ei fwyta, gallwn gynllunio strategaethau rheoli wedi’u targedu i ddiogelu rhywogaethau coed a llwyni sy’n agored i niwed.”
Dywedodd yr Athro John Healey, cyd-oruchwyliwr yr astudiaeth “Mae yna gyfuniad cymhleth o darfu ar goedwigoedd, digonedd o fieri a lefelau pori ceirw, ynghyd â dylanwadu ar y potensial i adfywio coed a chadwraeth bioamrywiaeth planhigion coetir.
“Mae’r effeithiau hyn yn bwysig wrth ragweld effeithiau llawn ymyriadau rheoli megis torri coed, torri mieri neu reoli poblogaethau ceirw. Wrth i ni weithio i ehangu gorchudd coed i ddal mwy o garbon a gwella gwytnwch coedwigoedd a bioamrywiaeth, mae angen inni geisio deall rhyngweithiadau poblogaethau ceirw sy’n tyfu gyda choetiroedd sy’n newid yn gyflym.”
Dywedodd Dr Graeme Shannon, uwch aelod y tîm ymchwil “Mae canlyniadau annisgwyl yr ymchwil hwn wedi tynnu sylw at hyblygrwydd rhyfeddol deiet danasod ac wedi dangos pwysigrwydd deall sut mae ceirw’n addasu mewn cynefinoedd sydd wedi eu trawsnewid gan bobl. Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod rhaid i’n hymdrechion rheoli gael eu teilwra i ranbarthau penodol gyda’u tirwedd unigryw, a’r gwahanol rywogaethau o geirw sy’n bresennol a maint eu poblogaeth, yn hytrach na defnyddio'r un dull i bawb.”
Darllenwch y papur fan hyn.