Creadigrwydd Diwylliannol ar Waith yn Ysgol Rhosneigr!
Yn ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Rhosneigr yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd trwy gymryd rhan mewn gweithdy celf a chrefft bywiog dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius. Yn y sesiwn llwyddwyd i ddod â chrefftau Tsieineaidd traddodiadol yn fyw, a chafodd y disgyblion roi cynnig ar weithgareddau creadigol amrywiol oedd wedi cael eu hysbrydoli gan yr ŵyl.
Roedd tiwtoriaid Sefydliad Confucius wedi mwynhau cael cyfarfod â'r disgyblion a rhannu eu gwybodaeth, a chafodd pawb a fu’n rhan o’r gweithdy brofiad gwych. Roedd y brwdfrydedd yn yr ystafell yn heintus, wrth i'r plant ymgolli yn y dyluniadau cywrain a'r traddodiadau diwylliannol, a theimlent yn falch wrth gael mynd â'u creadigaethau adref gyda nhw i gofio am yr achlysur.
Nid digwyddiad creadigol yn unig oedd hwn chwaith - roedd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu mwy am yr arferion a'r straeon sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Roedd y tiwtoriaid wrth eu boddau gyda chwilfrydedd a brwdfrydedd y disgyblion, a wnaeth y dathliad yn achlysur gwirioneddol lawen a chofiadwy.