
Mae Cerys wedi bod yn gweithio yn Ysgol Dyffryn Conwy ac am iddi fod yn aelod mor hanfodol o’r tîm yno, mae hi wedi cael cynnig swydd fel cynorthwyydd dysgu rhan amser, a chyfle i gwblhau ei TAR mewn rôl gyflogedig ar ôl graddio.
Dywedodd Dr Leona Huey, Arweinydd Cyflogadwyedd ar gyfer Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg, "Rydw i mor falch o Cerys a'i moeseg gwaith ar y lleoliad hwn - llongyfarchiadau mawr iddi. Mae hyn yn dangos gwerth y modiwl lleoliad gwaith o ran cynyddu sgiliau cyflogadwyedd a rhwydweithio gyda darpar gyflogwyr."