Fel rhan o’r dathliadau hyn, mae plac wedi’i ddadorchuddio i goffau’r Cytundeb Tridarn ym mis Chwefror 1405.

Wrth siarad yn ystod y digwyddiad, myfyriodd Dr Euryn Roberts ar arwyddocâd hanesyddol dwfn y ddogfen a’i chyd-destun o fewn gwrthryfel Glyndŵr:
"Mae’r coffâd heddiw yn mynd â ni yn ôl i gyfnod o argyfwng enfawr yng Nghymru, ond hefyd i gyfnod o arweinyddiaeth weledigaethol a chyda hynny, obeithion am fyd gwell. Mae’r Cytundeb Tridarn yn nodi uchafbwynt uchelgeisiau Owain Glyndŵr – ei weledigaeth feiddgar, a gellir dadlau, afrealistig, ar gyfer tywysogaeth Cymru ac ailstrwythuro radical o deyrnas Lloegr.’
Roedd gwrthryfel Glyndŵr, a ddechreuodd ym 1400, yn wrthryfel poblogaidd ac yn fudiad cenedlaethol, wedi’i ysgogi gan gwynion dwfn yn dilyn y goncwest Edwardaidd. Erbyn 1405, roedd Glyndŵr nid yn unig wedi sicrhau cefnogaeth sylweddol o’r tu mewn i Gymru ond hefyd wedi ffurfio cynghreiriau gyda theuluoedd bonheddig anfodlon yn Lloegr a gyda brenhinoedd Ffrainc a’r Alban. Roedd y Cytundeb Tridarn, cytundeb rhwng Glyndŵr, Edmund Mortimer, a Henry Percy, yn cynnig rhaniad tair ffordd rhwng Cymru a Lloegr a chreu tywysogaeth ehangach i Gymru.

Er gwaethaf methiant y gwrthryfel yn y pen draw, mae ei waddol yn parhau. Mae Owain Glyndŵr yn parhau i fod yn un o ffigurau hanesyddol enwocaf Cymru. Fodd bynnag, fel y nododd Dr Roberts yn ei sylwadau, nid yw dadorchuddio’r plac hwn yn ymwneud â choffáu ffigwr chwedlonol yn unig, ond â chydnabod y dogfennau hanesyddol sy’n taflu goleuni ar ei amser:
"Gan fyw fel y gwnawn mewn oes o eiconoclastiaeth fyd-eang, lle mae delwau’n cael eu tynnu i lawr neu eu difwyno’n aml, hoffwn gymeradwyo Cyngor Dinas Bangor am goffau nid Glyndŵr, y dyn ffaeledig, ond un o’r dogfennau allweddol sy’n agor ein llygaid i’w oes a’i ddyheadau. Mae adrodd straeon hanesyddol yn dibynnu ar y dystiolaeth, a heddiw, rydym yn anrhydeddu’r dystiolaeth honno."
Ymunodd y Parchedig Ganon Tracy Jones o Gadeirlan Sant Deiniol, Bangor, a Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Cyngor Dinas Bangor â Dr Roberts. Mae Martin yn gyn-fyfyriwr Hanes yn yr Ysgol. Roedd myfyrwyr presennol a chyn fyfyrwyr Hanes Bangor yn bresennol, a thynnwyd y lluniau yn yr erthygl hon gan Tomos Cahill, myfyriwr BA Hanes Canoloesol a Modern Cynnar Blwyddyn 2 yn yr Ysgol.