Cafodd myfyrwyr Dylunio Cynnyrch, Seicoleg a Chyfrifiadureg y cyfle i ymuno i gymryd rhan mewn Hacathon arloesol a gynhelir gan gwmni iechyd meddwl arobryn BFB Labs. Mae’r sefydliad yn defnyddio technoleg sy’n dod i’r amlwg i drawsnewid gofal iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gan ddarparu ymyraethau therapiwtig digidol sy’n afaelgar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac nad ydynt yn stigmateiddio.
Yn ystod yr Hacathon, bu myfyrwyr yn cydweithio i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynnyrch digidol nesaf BFB Labs. Eu briff oedd canolbwyntio ar greu offer sy'n helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau gydol oes i reoli eu hiechyd meddwl. Nod y cwmni o ran atebion digidol yw darparu profiadau gafaelgar wrth chwarae gemau fideo, a chynnig data amser real mewn perthynas â demograffeg, lefelau ymgysylltu a chanlyniadau iechyd.
Rhannodd Toran Procter, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, eu profiad:
Roedd yn cŵl iawn gweithio gyda phobl sydd â gwahanol arbenigeddau a defnyddio ein harbenigedd ein hunain i helpu pobl yn y ffordd hon. Roedd yn sesiwn ymarferol, ac yn ffordd wych o feddwl am lawer o syniadau creadigol.
Roedd yr amgylchedd cydweithredol yn annog myfyrwyr o ddisgyblaethau amrywiol i gyfuno eu gallu, eu meddylfryd dylunio, eu harloesedd technegol a’u dealltwriaeth seicolegol i greu atebion ystyrlon.
Canmolodd BFB Labs greadigrwydd a gwaith tîm y myfyrwyr, gan gydnabod gwerth safbwyntiau ffres wrth fynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl a wynebir gan bobl ifanc heddiw.
Mae'r bartneriaeth hon rhwng myfyrwyr a diwydiant yn amlygu ymrwymiad y brifysgol i roi profiadau byd go iawn i fyfyrwyr, gan feithrin cydweithredu trawsddisgyblaethol a chyfrannu at ddatblygiadau arloesol sy'n cael effaith gymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am BFB Labs a’u gwaith ym maes gofal iechyd meddwl, ewch i BFB Labs.
Photographs of the hackathon event

