Rhaglen Ddogfen ar Wcráin gan Athro o Brifysgol Bangor bellach ar gael ar BBC Sounds
Mae’r Athro Christian Dunn o Brifysgol Bangor wedi rhyddhau rhaglen ddogfen newydd ar BBC Radio 4 sy’n ymchwilio i effaith amgylcheddol rhyfel Wcráin, ac mae’r rhaglen bellach ar gael ar BBC Sounds.
Mae'r rhaglen ddogfen, a ddarlledwyd ddydd Mercher, 19 Mawrth, yn dilyn taith yr Athro Dunn i Wcráin, lle bu'n gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi i ymchwilio i effaith amgylcheddol rhyfel.
Fel rhan o’i waith ymchwil a gwmpesir gan y BBC, bu’n cydweithio â gwyddonwyr o Wcráin i gasglu samplau pridd o safleoedd amaethyddol sydd wedi’u taro’n uniongyrchol gan daflegrau a drôns.
Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r Athro Davey Jones o Brifysgol Bangor, yn helpu i asesu canlyniadau hirdymor gwrthdaro ar amaethyddiaeth y wlad.
Ofnir y gallai ffrwydron sy’n taro caeau a ddefnyddir i dyfu cnydau lygru’r pridd a ffynonellau dŵr lleol, gan atal planhigion rhag tyfu’n iach yn y dyfodol.

Wrth adfyfyrio ar ei brofiad, dywedodd yr Athro Dunn: “Fe wnes i fwynhau’r broses gyfan o gynnig a chyflwyno’r rhaglen ddogfen hon, sef yr ail i mi ei gwneud ar gyfer BBC Radio 4. Roedd yn fraint mawr cael y cyfle i adrodd stori mor bwysig.”
“Roedd ymweld ag Wcráin yn brofiad bythgofiadwy a theimladwy iawn. Roedd gweld gwytnwch y bobl, a rhai o effeithiau dinistriol rhyfel yn uniongyrchol, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi am byth.”
Er mwyn paratoi ar gyfer y daith, cafodd yr Athro Dunn hyfforddiant gan y BBC ar amgylchedd gelyniaethus, oedd yn ei gyfarparu â’r sgiliau angenrheidiol i weithredu'n ddiogel mewn parth gwrthdaro.

Cynhyrchwyd y rhaglen ddogfen gan Harrison Lewis, a ganmolodd waith yr Athro Dunn ar y project: “Roedd gweithio gyda Christian ar Scarred yn brofiad gwych – mae ei angerdd am adrodd straeon a gwyddoniaeth yn golygu bod y rhaglen ddogfen yn wirioneddol gymhellol.”
“Mae ei allu i gysylltu â phobl ac egluro materion cymhleth mewn ffordd ddifyr yn ei wneud yn gyflwynydd gwych,” ychwanegodd.
Mae Scarred ar gael i wrando arno nawr ar BBC Sounds: https://www.bbc.co.uk/programmes/m0028zyd