Prifysgol Bangor i gynnal cynhadledd ddylunio ac arloesi 'fydd yn ysbrydoli'
Mae Prifysgol Bangor am gynnal cynhadledd ddylunio ac arloesi 'fydd yn ysbrydoli'
Bydd y digwyddiad undydd, Talk Design 25, a gynhelir yn sinema Pontio ddydd Gwener 4 Ebrill am 9am, yn arddangos y tueddiadau diweddaraf a'r wybodaeth ddiweddaraf gan arweinwyr yn y diwydiant.

Bydd cwrs Dylunio Cynnyrch y brifysgol yn dod ag wyth siaradwr blaenllaw o'r sectorau dylunio a gweithgynhyrchu at ei gilydd - pob un yn cynnig safbwyntiau ac arbenigedd unigryw.
Ymhlith y siaradwyr bydd Rory Sutherland, arbenigwr marchnata enwog o Gymru ac is-gadeirydd Ogilvy UK. Bydd Keith Brymer Jones, seramegydd a chrochenydd o Lundain sy’n feirniad ar raglen Channel 4 The Great Pottery Throw Down, yn trafod sut mae creadigrwydd yn cwrdd â chrefftwaith. Chris Vagges, pennaeth datblygu cynnyrch yn Energym, cwmni ffitrwydd clyfar o Firmingham sy'n dylunio ac yn datblygu offer campfa sy'n cynhyrchu trydan at ddefnydd domestig a masnachol. Bydd yn trafod ei frwdfrydedd am ddatrys problemau a dylunio sy’n ddefnyddiwr-ganolog.
Bydd Molly Smith, uwch swyddog ffactorau dynol yn yr asiantaeth ddylunio Kinneir Dufort, yn cymhwyso ei harbenigedd i ddyfeisiadau meddygol blaengar - o systemau llawfeddygol robotig i atebion gwaedlif ôl-enedigol sy'n achub bywydau. Bydd Shelby Ayris, uwch ddylunydd UX/UI yn y cwmni datblygu cynnyrch Lucid Innovation, yn trafod ei gwaith.
Bydd Ben Martin, cyfarwyddwr creadigol yn Royal Flush Marketing, yn trafod pam mae rhai brandiau'n ffynnu tra bod eraill yn pylu. Bydd dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor hefyd yn cymryd rhan. Bydd Charlie Small, peiriannydd dylunio mecanyddol yn Rolls Royce, yn rhannu gwybodaeth am ddatblygu gyrfa, cael troed i mewn i ddiwydiannau newydd a meithrin hunanhyder. Hefyd, ar ôl degawd ym maes dylunio, bydd Mikyle Swindells a lansiodd The Design Lab Ltd, asiantaeth yn Brighton sy'n arbenigo mewn datblygu cynnyrch, prototeipio a chynaliadwyedd yn trafod ei brofiad.
Meddai Peredur Williams, darlithydd Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor, “Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn frwd dros feithrin creadigrwydd a darparu myfyrwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y diwydiant dylunio.
"Mae sioe’r radd Dylunio Cynnyrch a’r gynhadledd ‘Talk Design 2025’ yn llwyfannau gwych i’r myfyrwyr arddangos eu doniau ac i’r cynadleddwyr gael cipolwg gwerthfawr gan arweinwyr y diwydiant."
“Mae gennym restr hynod gyffrous o siaradwyr eleni. Mae’n gyfle gwych i glywed gan arbenigwr yn eu maes.
“Mae pobl sydd eisoes wedi bod yn y gynhadledd wedi canmol Talk Design fel cynhadledd 'sy’n ysbrydoli' yn ogystal â’r 'digwyddiad gorau o'i fath yng Nghymru a thu hwnt' ac mae'n hawdd gweld pam.
“Nid cynhadledd yn unig yw Talk Design 25 – mae’n gyfle i weithwyr creadigol proffesiynol, gweithgynhyrchwyr, ysgogwyr newid a darpar ddylunwyr ymgolli mewn athroniaeth ddylunio sydd ar flaen y gad.”
Mae tocynnau ar gyfer ‘Talk Design 25’ ar gael yn awr o wefan Pontio: www.pontio.co.uk
Mae mynediad am ddim i ddisgyblion, myfyrwyr ac athrawon a £10 i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Y pris cofrestru cynnar yw £35.
Cyfrif Instagram y cwrs: @productdesignbangor