Angen goruchwyliaeth fwy llym gan fod camymddwyn ariannol yn ysgogi banciau i gymryd risgiau
Mae banciau sy'n wynebu cosbau rheoleiddiol am gamymddwyn ariannol yn tueddu i ddefnyddio arferion busnes mwy peryglus, yn ôl ymchwil newydd.
Mae'r awduron yn rhybuddio y gall camymddwyn ailadroddus neu systemig gyflymu'r broses o gymryd risgiau mewn ffyrdd sy'n gwanhau sefydliadau unigol a'r system ariannol ehangach.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol East Anglia, yr US Department of the Treasury a Phrifysgol Bangor wedi defnyddio data o bron i 1,000 o fanciau a restrwyd yn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau rhwng 1998 a 2023 - cyfnod sy’n rhychwantu cylchoedd economaidd lluosog gan gynnwys argyfwng ariannol 2007-09.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y Journal of Banking & Finance, yn dangos bod banciau a gyfeiriwyd at yr awdurdodau am droseddau - yn amrywio o gamliwio i fethiannau mewn systemau gwrth-wyngalchu arian - yn llawer mwy tebygol o ymgymryd â strategaethau gyda llawer o risg a benthyca hapfasnachol.
Gall nodweddion y bwrdd cyfarwyddwyr wneud gwahaniaeth, gyda byrddau mwy a byrddau mwy annibynnol, yn enwedig y rhai sydd ag aelodaeth hŷn neu amrywiol o ran rhywedd, yn aml yn lleddfu effaith negyddol camymddwyn. Fodd bynnag, os oes gan brif weithredwyr lawer iawn o rym neu os yw buddsoddwyr sefydliadol sy’n canolbwyntio ar y tymor byr yn y fantol, gall hyd yn oed byrddau cadarn gael trafferth ffrwyno ymddygiad peryglus.
Meddai Dr Yurtsev Uymaz o Norwich Business School Prifysgol East Anglia: “Rydym yn dangos bod camau gorfodi ac achosion cyfreithiol yn erbyn banciau UDA yn gysylltiedig â’r banciau yn cymryd mwy o risgiau. Mae hyd yn oed un cam gorfodi yn cyfateb i risg uwch; yn achos banciau sy'n wynebu camau gweithredu lluosog, gall yr effaith fod yn sylweddol gryfach.
“Mae’n ymddangos nad oes unrhyw effaith ataliol o’r ffaith bod banciau sy’n wynebu camau lluosog yn profi risg uwch fyth.”
Dywedodd yr Athro Yener Altunbaş o Brifysgol Bangor, “Mae banciau yn chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith o hybu twf economaidd. Mae ymddygiad anfoesegol sy’n arwain at gymryd risgiau yn gallu cael effaith enfawr, gan danseilio mathau allweddol o gredyd neu waethygu ansefydlogrwydd systemig.”
Wrth sôn am y goblygiadau i lunwyr polisi a rhanddeiliaid, megis buddsoddwyr a’r cyhoedd, meddai Dr Yurtsev Uymaz: “Mae ein canfyddiadau yn tanlinellu sut y gall methiannau mewn ymddygiad moesegol agor y drws i arferion mwy peryglus. Mae hyn yn effeithio ar sefydlogrwydd y banc ei hun ac mae'n llifo drwodd i'r economi ehangach.
“Ar yr un pryd, rydym yn gweld y gall llywodraethu cryf – ar ffurf byrddau mwy a mwy amrywiol – helpu lleihau effeithiau andwyol camymddwyn. Fodd bynnag, gall y mesurau diogelu hyn gael eu tanseilio os bydd prif weithredwyr yn defnyddio gormod o rym neu os bydd buddsoddwyr yn gwthio am enillion tymor byr mewn modd ymosodol.
“Mae mynd i’r afael â’r bylchau llywodraethu hyn, tra hefyd yn cryfhau goruchwyliaeth, yn hanfodol i sicrhau bod y sector bancio yn cefnogi yn hytrach na bygwth twf economaidd parhaus.”
Mae'r astudiaeth yn ychwanegu at drafodaeth gynyddol o sut y gall camymddwyn gynyddu risgiau systemig - yn enwedig os yw dirwyon, difrod i enw da a chosbau eraill yn defnyddio adnoddau banciau neu'n tynnu’r sylw oddi ar fenthyca cyfrifol.
Mae'r ymchwilwyr yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys goruchwyliaeth reoleiddiol lymach a gwell atebolrwydd gan fyrddau.
“Gallai rheoleiddwyr elwa o graffu ychwanegol ar sefydliadau sydd â hyd yn oed un tordyletswydd wedi ei ddogfennu, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar fanciau â chamymddwyn parhaus neu ailadroddus,” meddai’r Athro Thornton.
“Gall sicrhau bod gan fyrddau’r annibyniaeth, y gallu a’r amrywiaeth i herio swyddogion gweithredol pwerus helpu i atal strategaethau sydd wedi eu hysgogi gan enillion tymor byr ond sy’n niweidiol i sefydlogrwydd hirdymor.
“A dylai ymarferion rheolaidd i brofi straen hefyd gynnwys yn benodol y potensial ar gyfer digwyddiadau cysylltiedig â chamymddwyn, gan gynnwys costau cyfreithiol ac enw da cysylltiedig.”
Maent yn ychwanegu y gallai llunwyr polisi archwilio cymhellion neu strwythurau sy'n hyrwyddo meddwl tymor hwy ymhlith buddsoddwyr sefydliadol, gan gydbwyso nodau elw tymor byr iawn â diogelwch systemig.
Cyhoeddir ‘Financial misconduct and bank risk-taking: evidence from US banks’, John Thornton, Yener Altunbaş a Yurtsev Uymaz yn y Journal of Banking & Finance ar 31 March.