Ymchwilwyr yn rhybuddio bod cynnydd mewn tonnau gwres o dan arwyneb llynnoedd yn bygwth cynefinoedd
Mae ymchwilwyr wedi rhybuddio bod cynnydd mewn tonnau gwres sy'n digwydd o dan arwyneb llynnoedd yn bygwth cynefinoedd dyfrol.
Cynhaliodd tîm o wyddonwyr hinsawdd, dan arweiniad Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor, astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol Nature Climate Change.
Canfuwyd bod tonnau gwres sy’n digwydd mewn dŵr dwfn wedi cynyddu o ran amlder, hyd a dwyster dros y 40 mlynedd diwethaf.
Yn ogystal â hynny, mae'r hyn a elwir yn donnau gwres cyfansawdd fertigol, lle mae gwres eithafol yn digwydd ar yr arwyneb a'r gwaelod ar yr un pryd, wedi codi.
Er mwyn cofnodi newidiadau yn rhai o lynnoedd mwyaf y byd, ac ymchwilio i amrywiadau tonnau gwres o fewn llynnoedd, archwiliwyd allbynnau model tri dimensiwn (3D) o Lynnoedd Mawr Laurentiaidd Gogledd America.
Gall digwyddiadau dŵr poeth eithafol mewn llynnoedd amharu’n sylweddol ar ecosystemau dyfrol, ac er bod llawer o astudiaethau wedi’u cynnal ar donnau gwres ar yr arwyneb, nid yw strwythurau fertigol o fewn llynnoedd wedi’u harchwilio fawr ddim.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth, lle bu Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn cydweithio â gwyddonwyr o Michigan Technological University a Southern University of Science and Technology yn datgelu bod tonnau gwres yn digwydd yn aml dan yr arwyneb, a’u bod yn aml yn para'n hirach ond yn llai dwys na digwyddiadau ar yr arwyneb.
Mae hefyd yn rhybuddio y rhagwelir y bydd newidiadau mewn patrymau tonnau gwres, yn enwedig o dan allyriadau uchel, yn dwysáu erbyn diwedd y ganrif.
Er y gallai’r cynnydd yn nhymereddau digynsail oherwydd tonnau gwres mewn llynnoedd fod yn fuddiol i rai rhywogaethau dyfrol trwy ehangu eu cynefin, gall fod yn niweidiol i rywogaethau eraill. Oherwydd hyn, mae meintioli newidiadau mewn tonnau gwres llynnoedd yn hollbwysig er mwyn rhagweld effaith debygol cynhesu hinsawdd ar lynnoedd.
Gall rhywogaethau dyfrol symudol ymateb i aflonyddwch amgylcheddol, megis tymereddau arwynebol eithafol, trwy adleoli i gynefinoedd mwy ffafriol.
Mewn systemau haenu, mae dyfroedd gwaelod yn aml yn oerach nag arwyneb y llyn. Os yw ffactorau amgylcheddol eraill yn ffafriol, gallai llawer o rywogaethau dyfrol ymfudo i'r haenau dyfnach hyn i ddianc rhag straen thermol yr arwyneb.
Gallai dŵr dwfn oerach ddarparu lloches thermol posibl i rywogaethau dyfrol wrth i donnau gwres ar yr arwyneb ddod yn fwy cyffredin a dwys. Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod y potensial ar gyfer hyn yn lleihau.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor, “Fe wnaeth ein hymchwiliad nodi nifer o ganfyddiadau mewn perthynas â photensial gostyngol o ddihangfa thermol fertigol o donnau gwres ar yr arwyneb, a chynnydd yn y pellter fertigol y dylai rhywogaethau deithio i ddianc rhag tonnau gwres ar yr arwyneb pan fo lloches thermol yn bodoli.
“Darganfuwyd amrywiaeth sylweddol yn adeiledd fertigol tonnau gwres o dan yr arwyneb ar draws llynnoedd, a’r cynnydd mewn tonnau gwres gwaelod gydag amodau arwyneb eithafol, a heb amodau arwyneb eithafol, a chynnydd yn amlder tonnau gwres a oedd yn gwaethygu’n fertigol.”
Mae astudiaethau blaenorol wedi nodi bod tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd wedi cynyddu o ran dwyster a pharhad dros y degawdau diwethaf.
Gall y tymereddau dŵr eithafol y mae'n rhaid i rywogaethau eu dioddef yn ystod tonnau gwres ar yr arwyneb arwain yn aml at ganlyniadau difrifol.
Ychwanegodd Dr Iestyn Woolway, “Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y bydd angen i lawer o rywogaethau dyfrol fudo i ddŵr oerach ar uchder neu ledred uwch y ganrif hon i gynnal cynefin thermol dewisol. Gallai rhywogaethau dyfrol hefyd ddianc rhag straen thermol tonnau gwres ar yr arwyneb trwy fudo i ranbarthau dyfnach o fewn llyn.
“Fodd bynnag, mae ein hymchwiliad yn dangos, er bod potensial yn aml i rywogaethau dyfrol deithio’n fertigol o fewn llyn i gyrraedd dŵr oerach, mae cyfran y tonnau gwres ar arwyneb llynoedd heb loches thermol mewn dŵr dyfnach wedi cynyddu.
“Mae’r ehangiad fertigol hwn mewn tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd yn amlygu natur ddeinamig y digwyddiadau gwres eithafol hyn, gan annog organebau dyfrol i addasu eu patrymau dosbarthiad. Wrth i effeithiau tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd gyrraedd dŵr dyfnach, gall gostyngiad mewn cynefinoedd digonol arwain at newidiadau i helaethrwydd ac ystod rhywogaethau.
“Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu’r angen am fwy o fonitro o dan yr arwyneb er mwyn deall yn llawn a rhagweld effeithiau ecolegol tonnau gwres mewn llynoedd.”