Hanes Stad Castell Powis Wedi'i Ddadansoddi yn Narlith Flynyddol Gyntaf y Sefydliad
Cynhaliwyd Darlith Flynyddol gyntaf Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 2 Ebrill. Swynodd yr hanesydd clodfawr a Chydymaith Ymchwil y Sefydliad Dr Melvin Humphreys y gynulleidfa gyda’i ddarlith graff, o’r enw “Castell Powys: Gwydnwch Ystad Aristocrataidd yng Nghymru – Etifeddiaeth, Cau Tir a Mwyngloddio am Blwm”.
Mae Dr Humphreys yn arbenigwr blaenllaw ar ystadau gwledig Sir Drefaldwyn, sydd wedi ymchwilio a chyhoeddi ar hanes cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y rhanbarth. Erys ei waith arloesol, The Crisis of Community: Montgomeryshire, 1680-1815, yn destun hanfodol ar gyfer deall rôl hanesyddol ystadau gwledig yng nghymdeithas Canolbarth Cymru. Mae ei lyfryddiaeth helaeth yn cynnwys Garth: Estate, Architecture and Family (2020) a Plas Newydd and the Manor of Talerddig (2022). Fel Cydymaith Ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae’n rhannu ein cenhadaeth o ddyfnhau ein dealltwriaeth o ystadau Cymru, felly roedd yn fraint i’w groesawu fel siaradwr ar gyfer ein Darlith Flynyddol gyntaf. Fel y nododd Dr Humphreys yn ei sylwadau agoriadol, mae yna gysylltiad cryf rhwng Ystâd Powis a Phrifysgol Bangor, oherwydd y 3ydd Iarll Powis oedd un o sylfaenwyr y Brifysgol a’i Llywydd cyntaf. Hyfryd oedd cael yr Iarll ac Iarlles presennol Powis, yn ogystal â chydweithwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Gastell Powys, ymhlith y gynulleidfa fawr iawn a ddaeth ynghyd ar gyfer y ddarlith.

Ar hyn o bryd mae Dr Humphreys yn gweithio ar lyfr newydd a fydd yn darparu astudiaeth gynhwysfawr o ystadau Castell Powys o 1660 hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ganolog i’r gwaith hwn mae Archif Ystad Powis, un o’r archifau ystadau mwyaf yng Nghymru, adnodd cyfoethog nad yw wedi’i ymchwilio’n ddigonol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Dr Humphreys wedi gweithio’n agos gyda Murray Chapman a chydweithwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ysgrifennu disgrifiadau catalog ar gyfer holl gofnodion Castell Powis – ymdrech hynod arwyddocaol a fydd yn sylfaen pwysig ar gyfer ymchwil am flynyddoedd i ddod. Mae Melvin yn taflu goleuni newydd ar y stad gan ddefnyddio'r cofnodion hyn a'r hanesion sydd ynghlwm wrthynt. Archwiliodd ei ddarlith y grymoedd cymhleth sydd wedi sicrhau goroesiad yr ystâd dros y canrifoedd, o newid patrymau etifeddiaeth i weithgareddau economaidd megis mwyngloddio plwm a chalchfaen. Edrychodd ar symudiad arian i mewn ac allan o’r ystâd, gan amlygu cyfnodau pan oedd y gwariant yn fwy na’r incwm, pan oedd dyled yn bygwth difetha’r ystâd, a sut yr addasodd a goroesodd yr ystâd.
Yn gyntaf, peintiodd Dr Humphreys lun o sut yr ehangodd y teulu Herbert yr ystâd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, ar ôl prynu Barwniaeth Powys gyda Chastell Powys ym 1587. Awgrymodd mai un o’r prif resymau pam y denwyd yr Herbertiaid i Bowis – ar wahân i’w arwyddocâd tywysogaidd a’i chastell arbennig – oedd y ffaith bod nifer o faenorau a oedd ynghlwm wrth y Farwniaeth yn medru cael eu hamgáu, a fanteisiodd y teulu ar hyn yn y ‘gwir arddull gyfalafol, ymosodol Duduraidd’. Yn ogystal ag amgáu tir comin, fe brynon nhw nifer o faenorau o amgylch Castell Powys er mwyn adeiladu ‘banc tir’, ac mae Dr Humphreys yn amcangyfrif efallai mai ystâd Powys oedd yr ystâd fwyaf yng Nghymru erbyn 1700. Hefyd, roedd yna gyfres o briodasau a wnaeth ‘gwthio’r Herbertiaid i’r raddfa aristocrataidd’, gan gynnwys undebau â theuluoedd Craven, Somerset a Preston, a ddaeth â stadau yn Swydd Northampton i'r teulu.
Fodd bynnag, yn ystod y ddeunawfed ganrif, roedd Ystâd Powis yn llawn dyledion; un o’r ffigurau mwyaf syfrdanol a glywsom oedd y cynnydd mewn dyled o £50,000 yn 1700 i £280,000 yn y 1720au, ar incwm o £10,000 y flwyddyn. Aeth Dr Humphreys ymlaen i archwilio’r rhesymau dros y dyledion hyn, gan ddisgrifio darpariaethau ar gyfer plant iau, gan gynnwys gwaddoliadau i ferched, fel ‘elfen hollbwysig yn y broblem dyled’. Yn amlwg, roedd yna densiwn yn system ystad dir Lloegr, rhwng cyntafanedigaeth a’r awydd i ddarparu ar gyfer meibion a merched iau. Ffactor arall oedd rhan y teulu Herbert mewn dau gynllun ariannol a ddaeth i ben gyda chwalfa ariannol, y Mississippi Bubble ym Mharis a’r South Sea Bubble yn Llundain; credir bod colledion ystâd Powys o’r ymdrechion hyn rywle o gwmpas £140,000. Wrth gwrs, roedd yna ffactorau ‘rhyfedd, unigol’ eraill, er enghraifft cwymp William Herbert yn y Chwyldro Gogoneddus yn 1688 a’i alltudiaeth i Ffrainc gyda Iago II, a arweiniodd at atafaelu ystadau Powys gan y Goron.
Felly, beth achubodd ystâd Powys? Yn gyntaf oll, llwyddodd yr Herbertiaid i adennill eu hystadau a atafaelwyd oherwydd eu bod wedi’u clymu mewn ‘aneddiadau caeth’, felly roedd rhaid iddynt gael eu etifeddu gan ddisgynyddiwr y rhoddwr cyntaf yn hytrach na berthnasau cytras. Bu ambell i enghraifft yn y ddeunawfed ganrif lle methodd llinach wrywaidd y teulu Herbert, a goresgynnwyd y rhain trwy newid patrymau etifeddiaeth. Er enghraifft, gadawodd y dibriod William Herbert, 3ydd Ardalydd Powis (1698-1748), ei ffortiwn i’w gefnder, a briododd nith yr Ardalydd, aeres yr ystadau dan sylw. Priododd aeres arall, Henrietta Herbert (1758-1830) ag Edward Clive (1754-1839) ym 1784, a llwyddodd eu mab i etifeddu ystadau Powis ar yr amod ei fod yn mabwysiadu enw a teitlau'r teulu Herbert ac yn cefnu ar ei etifeddiaeth Clive.
Fodd bynnag, roedd darlith Dr Humphreys hefyd yn archwilio’r gweithgaredd ‘ar lawr’ a alluogodd yr ystâd i oresgyn eu dyledion. Roedd hyn yn cynnwys darganfyddiad ‘gwyrthiol’ o wythïen 15 troedfedd o led, 500 troedfedd o ddyfnder o fwyn plwm o ansawdd eithriadol o uchel ar dir ystad ym Mynyddoedd y Berwyn ym 1725. Gan fanteisio ar y darganfyddiad hwn, adeiladodd yr ystâd naw ffwrnais a dechreuodd y broses o fwyndoddi'r plwm hwn a chludo'r cynnyrch i Fryste; rhwng 1725 a 1744 Mwynglawdd Plwm Llangynog oedd y mwynglawdd plwm mwyaf yn Ewrop. Addaswyd gweithrediad cyfan yr ystâd i gefnogi'r ymdrech ddiwydiannol hanfodol hon. Pwysleisiodd Dr Humphreys pa mor anarferol oedd hi i elw ystad o weithgareddau diwydiannol fod yn fwy na’u hincwm tiroedd yn y ddeunawfed ganrif, fel ym Mhowis.
Roedd gweithgarwch arall ‘ar lawr’ yn cynnwys amgáu tir comin o tua 1760. Yn wir, daeth y cynnydd o 26% mewn rhenti yn y llyfrau rhent o’r cyfnod hwn yn uniongyrchol o’r broses amgáu. Rhoddodd y tiroedd newydd hyn gyfle i'r ystâd arbrofi i chwarela calchfaen. Adeiladwyd odynau calch, camlesi, a rheilffyrdd newydd, i gyd dan gyfarwyddyd y Stiward Tir John Probert, a oedd yn y swydd o tua 1770 i 1819.
Yn ei sylwadau i gloi, soniodd Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sut yr oedd darlith Dr Humphreys wedi ‘dangos sut mae ystadau tir a’u harchifau yn brismau sy’n rhoi mewnwelediad cyfoethog i gynifer o agweddau ar fywyd a chymdeithas’, o fywydau bythynwyr tlawd a glowyr plwm i rôl menywod, i wleidyddiaeth, yr economi, a diwydiant, pob un yn themâu y mae'r Sefydliad yn ceisio tynnu sylw atynt drwy ein prosiectau amrywiol. Roedd amser ar y diwedd ar gyfer cwestiynau gan y gynulleidfa cyn dirwyn y noson i ben.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i Dr Melvin Humphreys am ei ddarlith graff ac i bawb a ddaeth i Fangor i'w fwynhau. Roeddem yn falch iawn o gael cynulleidfa mor fawr. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddiad llyfr newydd Dr Humphreys maes o law.
(Gan Bethan Scorey a Sean Martin)