Ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar gael ar gyfer MSc Amaethgoedwigaeth a Choedwigaeth Drofannol
Mae Prifysgol Bangor wedi sicrhau 10 o ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad i'w dyfarnu i ysgolheigion rhyngwladol eithriadol i astudio naill ai: MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu’r Cyflenwad Bwyd neu MSc Coedwigaeth Drofannol trwy ddysgu o bell gan ddechrau ym mis Medi 2025.
Sicrhawyd yr ysgoloriaethau llawn hyn gan Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor yn dilyn proses hynod gystadleuol yn erbyn prifysgolion gorau eraill y Deyrnas Unedig.
Caiff yr ysgoloriaethau hyn ond eu dyfarnu i ysgolheigion o wledydd datblygol y Gymanwlad, sef: Bangladesh, Belize, Botswana, Cameroon, Dominica, Eswatini, Fiji, Gabon, Ghana, Grenada, Guyana, India, Jamaica, Kenya, Kiribati, Lesotho, Malawi, Malaysia, Maldives, Mauritius, Montserrat, Mozambique, Namibia, Nauru, Nigeria, Pacistan, Papua Guinea Newydd, Rwanda, St Helena, St Lucia, St Vincent a'r Grenadines, Samoa, Sierra Leone, Ynysoedd Solomon, De Affrica, Sri Lanka, Tanzania, Y Gambia, Togo, Tonga, Tuvalu, Uganda, Vanuatu, Zambia.
Mae’r ysgoloriaethau’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth hael i alluogi ysgolheigion i fynd ar daith astudio orfodol i wlad drofannol am bythefnos. Mae grant astudio bychan hefyd ar gael i helpu ysgolheigion gyda chostau astudio sy'n gysylltiedig â dysgu o bell (e.e. defnyddio'r rhyngrwyd).
Dywedodd Dr Bid Webb, Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol:
“Rydym yn falch bod ein rhaglenni dysgu o bell yn parhau i gael cydnabyddiaeth gan Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad. Mae'r ysgoloriaethau hyn yn rhoi cyfle i unigolion talentog o bob rhan o'r Gymanwlad ddilyn MSc wrth aros yn eu gwledydd cartref. Mae’r rhan fwyaf o’n hysgolheigion eisoes yn weithwyr proffesiynol gweithredol mewn coedwigaeth, amaethgoedwigaeth, neu reoli adnoddau naturiol, sy’n golygu y gallant gymhwyso eu dysgu ar unwaith yng nghyd-destun y byd go iawn.”
“Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd dysgu deinamig a chynhwysol, gyda chefnogaeth tîm academaidd ymroddedig sydd ag ystod eang o arbenigedd. Gyda phwyslais cynyddol ar offer e-ddysgu arloesol, rydym yn ymdrechu i gyfoethogi ymgysylltiad myfyrwyr, meithrin ymdeimlad cryf o gymuned, a chynnal safonau academaidd uchel."
Mae un o'n graddedigion (Tonthoza Uganja o Malawi) ar hyn o bryd yn astudio am PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Dywedodd “Rhoddodd y rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol ym Mhrifysgol Bangor yr hyder i mi gychwyn ar fy musnes estyniad adfer tir fy hun, sef Sustainable Farming Solutions (SFS). Fe wnaeth y rhaglen fy helpu i ddeall fy rôl wrth gefnogi perchnogion coedwigoedd a ffermwyr ar raddfa fach.”
Mae gennym grŵp amrywiol o fyfyrwyr sy’n dysgu o bell o sefydliadau ymchwil, cyrff rheoli coedwigoedd cyhoeddus a phreifat, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a sefydliadau cysylltiedig eraill o dros 20 o wahanol wledydd. Rydym yn cynnal Taith Astudio Coedwigaeth Drofannol er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolheigion a'r tîm addysgu’n cwrdd yn y cnawd i gael cyfle i ddod i adnabod ei gilydd a darganfod a dysgu gyda'i gilydd mewn amgylchedd (agro)goedwigaeth drofannol. Dyma oedd uchafbwynt y rhaglen i lawer.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol wedi bod yn cynnig cyrsiau dysgu o bell rhan amser sy'n gysylltiedig â choedwigaeth ers 2002, gyda'r garfan gyntaf o ysgolheigion Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad yn dechrau yn 2011. Ers hynny, mae ein hysgolheigion a’n graddedigion wedi bod yn llysgenhadon gwych i Brifysgol Bangor ac i Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad. Mae ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad wedi rhoi cyfle prin i'n myfyrwyr a'n graddedigion sy’n dysgu o bell astudio am radd ôl-radd ryngwladol yn un o sefydliadau uchaf ei barch y Deyrnas Unedig yn y maes.