
Rhwng 12:00 a 18:00, cyflwynwyd amrywiaeth gyfoethog o ymchwil o wahanol feysydd gan gynnwys ieithoedd a llenyddiaeth, addysg a dulliau addysgu, busnes a thechnoleg, hanes ac astudiaethau diwylliannol, athroniaeth a seicoleg, cymdeithaseg a heriau cymdeithasol, a llenyddiaeth greadigol. Roedd modd mynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb neu ar-lein, gyda theuluoedd hefyd yn cael eu croesawu’n gynnes i wylio.
Traddodwyd y ddarlith gyweirnod gan Dr Martina Feilzer, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a oedd yn sesiwn ysbrydoledig ac a osododd y naws ar gyfer diwrnod o drafodaethau adeiladol a bywiog.

Wrth adlewyrchu ar y diwrnod, dywedodd Alicia Edwards, ymchwilydd PhD mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ac un o gyd-drefnwyr y gynhadledd:
“Roedd cynhadledd eleni’n llwyddiant ysgubol. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Holly, Ricardo a Rifah – gyda phawb wedi cyfrannu’n aruthrol. Trwy fod yn rhan o’r pwyllgor eleni, cefais weld faint o waith sy’n mynd i drefnu digwyddiad o’r fath a chael cyfle i gadeirio sesiynau – sgiliau hynod werthfawr y byddaf yn eu defnyddio yn y dyfodol.”
Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a’r Gwyddorau Cymdeithas yn estyn llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac am gynhadledd lwyddiannus a oedd yn tystio i gryfder ac ehangder ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.