Fy ngwlad:
Llun o lyfrau y gyfraith ar silffoedd

Safbwyntiau Byd-eang ar Gyfiawnder: Sgyrsiau Gwadd ym Mhrifysgol Bangor

Cafodd myfyrwyr LLM sy’n dilyn y modiwl Cyfraith Droseddol Ryngwladol (SXL-4041) y semester hwn fudd mawr o ddilyn rhaglen o siaradwyr gwadd, wyneb yn wyneb ac ar-lein, er mwyn gwella eu dealltwriaeth o rai o brif faterion cyfiawnder trosiannol cyfoes, a rôl integreiddio rhanbarthol wrth atgyfnerthu’r gyfraith. Daeth y sesiynau hyn yn bosibl diolch i gyllid gan brosiect Jean Monnet y Comisiwn Ewropeaidd, EURIACIC, dan arweiniad Helen Trouille.