Dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar fewnforio pren yn bygwth nodau sero net, yn ôl ymchwil newydd
Mae astudiaeth newydd wedi rhybuddio y gallai dibyniaeth drom y Deyrnas Unedig ar fewnforio pren danseilio ei strategaeth sero net a chynyddu allyriadau carbon byd-eang.
Yn y papur, sydd wedi ei gyhoeddi yn Nature Communications, mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn amlygu'r angen dybryd am ehangu coedwigaeth ddomestig a gwell rheolaeth i ddiwallu’r galw cynyddol am bren mewn ffordd gynaliadwy.
Mae pren yn ddewis amgen carbon isel allweddol yn lle dur, concrit, a phlastigion, ond y Deyrnas Unedig yw’r ail fewnforiwr pren mwyaf yn y byd, ac mae ganddi’r gorchudd coedwig isaf (13%) o unrhyw wlad yn Ewrop.
Gyda dim ond 20% o'r galw’n cael ei ddiwallu gan goed cartref, mae'r wlad yn wynebu risgiau o brisiau byd-eang cyfnewidiol a phryderon hirdymor ynghylch “diogelwch pren”.
Canfu'r astudiaeth hefyd y gallai dibynnu ar goedwigoedd boreal gogleddol a gynaeafwyd yn ddwys – sy'n storio llawer iawn o garbon – leihau'r buddion hinsawdd o ddefnyddio pren wrth adeiladu.
Gallai cynnydd yn faint o goed caiff eu torri yn y coedwigoedd hyn ryddhau mwy o garbon nag a arbedir drwy ddefnyddio pren yn lle deunyddiau eraill.
Er mwyn ymchwilio i'r her hon, bu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio ar y cyd â Woodknowledge Wales, sef Cymdeithas Budd Cymunedol annibynnol er lles y cyhoedd, sy'n hyrwyddo coedwigaeth a phren cynaliadwy ac arferion adeiladu adfywiol. Aethant ati i ddatblygu fframwaith asesiad blaengar ar gylch bywyd i asesu effaith hirdymor gwahanol strategaethau coedwigaeth ar yr hinsawdd, ac maent yn galw am ddull newydd o gynhyrchu pren domestig cynaliadwy.
Mae eu dadansoddiad yn dangos y gallai cynyddu cynhyrchiant pren domestig yn sylweddol — trwy ehangu coedwigaeth a gwell rheolaeth — ddiwallu’r galw cynyddol am bren wrth barhau i gefnogi nodau hinsawdd. Fodd bynnag, bydd angen newidiadau mawr mewn polisi defnydd tir ac arferion coedwigaeth.
Er mwyn diwallu cynnydd bychan blynyddol yn y galw am bren (1.1% y flwyddyn), byddai angen ehangu ardaloedd coedwig cynhyrchiol 50% dros 50 mlynedd.
Byddai ymagwedd fwy uchelgeisiol — dyblu arwynebedd coedwig cynhyrchiol a newidiadau rheoli i hybu cyfraddau twf coed 33% — yn sicrhau 175% yn fwy o fuddion hinsawdd.
Fodd bynnag, os bydd cynnydd yn y galw am bren yn fwy (2.3% y flwyddyn), dim ond cyfuniad o ddyblu arwynebedd coedwigoedd a hybu cyfraddau twf coed 33% a fyddai’n sicrhau manteision hirdymor i’r hinsawdd.

Dywedodd yr Athro John Healey o Brifysgol Bangor, uwch awdur yr astudiaeth,
“Mae ein hastudiaeth yn amlygu tair her sylweddol i goedwigaeth y Deyrnas Unedig. Y cyntaf yw ehangu coedwigoedd cynhyrchiol. Mae ehangu coedwigoedd conwydd wedi arafu ers 30 mlynedd, a disgwylir i gyflenwad pren y gellir ei gynaeafu ostwng ar ôl 2039. Bydd gwrthdroi hyn yn gofyn inni ailfeddwl am flaenoriaethau defnydd tir.
“Yr ail yw gwella rheolaeth coedwigoedd: Rhaid cynnal cynhyrchedd uwch, er gwaethaf bygythiadau cynyddol gan blâu, afiechyd a sychder. Y trydydd yw cynyddu effeithlonrwydd defnydd pren: Bydd prosesu pren heb fawr o wastraff, ei ailddefnyddio, a mabwysiadu egwyddorion economi gylchol yn hollbwysig.”
Ychwanegodd, “Mae angen diwygio polisi’n sylweddol i fodloni’r heriau hyn. Er mwyn sicrhau bod y defnydd o bren yn lle deunyddiau eraill yn parhau i fod yn ddatrysiad sero net cynaliadwy, rhaid i’r Deyrnas Unedig gyfyngu ar y cynnydd yn ei dibyniaeth ar fewnforio pren er mwyn osgoi shifft mewn allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth dramor. Er mwyn galluogi hyn, rhaid diwygio'r strategaeth defnydd tir i alluogi'r ehangiad coedwigaeth gofynnol a'r cynnydd mewn cynhyrchedd.
“Mae tyfu mwy o goed ein hunain yn hanfodol — nid yn unig o ran targedau sero net y Deyrnas Unedig, ond hefyd o ran y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd.”

Dywedodd Gary Newman, Prif Weithredwr Woodknowledge Wales, “Mae Woodknowledge Wales yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â’r papur pwysig hwn. Mae’n gwneud galwad gref i weithredu dros strategaeth blannu hirdymor, gwell cynhyrchedd coedwigoedd a defnydd effeithlon o bren.”