Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor

Blog: Dr Hollie Booth"Cadw siarcod yn fyw a physgotwyr yn hapus" gan Marie Touchon

Mewnwelediadau o waith Dr Hollie Booth ar ddefnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol o warchod siarcod a phelydryn. Cyflwynodd Hollie ei chanfyddiadau ym Mhrifysgol Bangor ar Ebrill 27ain mewn darlith agoriadol ar thema ymchwil y coleg Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gwydn.

Group of happy smiling ladies having attended and interesting talk

Mae siarcod, cathod môr, a'u perthnasau cartilagaidd, y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel siarcod, yn hanfodol i swyddogaeth ac iechyd ecosystemau’r môr ac yn darparu llawer o wasanaethau ecosystem sy'n rhoi hwb i les dynol. Ond mae pwysau pysgota cynyddol wedi arwain at ostyngiad o 70% ym mhoblogaethau siarcod cefnforol yn yr 50 mlynedd diwethaf, gydag 1 o bob 4 siarc bellach mewn perygl o ddifodiant gydag effeithiau clir ar ecosystemau’r môr a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Er bod llawer o atebion technegol eisoes yn bodoli i leihau gorbysgota, mae rhwystrau economaidd a chymdeithasol yn aml yn cyfyngu ar eu mabwysiadu. Mae'r rhwystrau hyn yn fwy cymhleth mewn pysgodfeydd rhywogaethau cymysg ar raddfa fach, lle gall dibyniaeth ar siarcod am gynhaliaeth a blaenoriaethau cadwraeth wrthdaro gan arwain at gyfaddawdu anodd. Yn anffodus, mae cymunedau lleol fel rheol yn cael eu gadael i ysgwyddo costau’r cyfaddawdu hyn (e.e., colli incwm os caiff pysgota ei wahardd) tra gall gweithredwyr mwy pwerus, megis cwmnïau twristiaeth, elwa o siarcod gwarchodedig (e.e., mae mwy o siarcod yn cyfateb i fwy o dwristiaeth deifio i weld siarcod) heb ysgwyddo'r costau.

Felly sut ydych chi'n diwallu anghenion cymunedau arfordirol wrth amddiffyn siarcod?

Mae Indonesia, fel yr ail gynhyrchydd pysgod mwyaf a’r wlad sy’n gwneud mwy o bysgota siarcod yn y byd, gyda 99% o’r pysgodfeydd yn cael eu hystyried yn rhai ar raddfa fach, yn flaenoriaeth i astudio’r cwestiwn hwn, a dyma oedd pwyslais PhD Dr Hollie Booth ym

Mhrifysgol Rhydychen. Gan ddefnyddio proses aml-gam ryngddisgyblaethol o ymchwil i weithredu, ymchwiliodd Hollie i gyfaddawdau rhwng canlyniadau cadwraeth a bywoliaethau lleol mewn nifer o bysgodfeydd graddfa fach yn Indonesia. Mae ymchwil yn parhau y tu hwnt i PhD Hollie, ac mae'r project wedi darparu amrywiaeth eang o ganfyddiadau hyd yma.

Cymhlethdodau sgil-ddalfa: gall siarcod fod yn 'ddalfa ychwanegol'

Sgil-ddalfa yw un o brif achosion gorbysgota, ac fel rheol mae’n cyfeirio at ddal rhywogaethau eraill yn ogystal â’r ddalfa darged, ond mae diffiniadau a chanfyddiadau o sgil-ddalfa yn amrywio ar draws cyd-destunau. O'r herwydd, roedd Hollie yn ystyried sgil-ddalfa fel sbectrwm, o ddalfa annymunol i ddalfa werthfawr.

O ystyried y sbectrwm hwn, defnyddiodd y tîm ymchwil ddull seicoleg gymdeithasol, a elwir yn Ddamcaniaeth Ymddygiad Cynlluniedig i ddeall credoau pysgotwyr ynglŷn â sgil-ddalfa , o'u barn am ddal gwahanol rywogaethau siarcod i'w canfyddiadau ynglŷn â rhyddhau rhai byw.

Diagram showing bycatch

 

 

Roedd siarcod morfilaidd yn cael eu hystyried yn allweddol i gynnal poblogaethau pysgod lleol, ac roedd pysgotwyr yn hapus i’w rhyddhau. Ar gyfer pysgod lletem a morgwn pen morthwyl, roedd y stori'n wahanol: roedd pysgotwyr yn hoffi eu dal gan eu bod yn darparu incwm ychwanegol, ac roedd eu rhyddhau yn anffafriol. Hefyd, roedd pysgod lletem a morgwn pen morthwyl yn aml yn cael eu disgrifio fel 'rhodd gan Dduw', gan ddangos dylanwad credoau arferol lleol ar arferion pysgota. Ni fyddai ateb technegol (e.e. defnyddio gêr gwahanol) wedyn yn ddigon i leihau gorbysgota'r 'ddalfa ychwanegol' hon, gan arwain Hollie a'r tîm i ymchwilio i atebion cymdeithasol ac economaidd.

Cynnig dewisiadau gwahanol yn hytrach na gosod un ateb

Gan ddefnyddio cyfweliadau senario gyda phrisio amodol (sy’n helpu i roi gwerth i adnoddau nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad) bu’r tîm ymchwil yn gweithio gyda physgotwyr i weld a fyddent yn addasu eu hymddygiad wrth ddal pysgod lletem a morgwn pen morthwyl o dan wahanol senarios damcaniaethol a sut y byddent yn addasu eu hymddygiad.

O'r rhestr hon o ddewisiadau, dangosodd y canlyniadau y byddai’r rhan fwyaf o bysgotwyr yn fodlon rhyddhau pysgod lletem a morgwn pen morthwyl pe byddent yn cael eu digolledu am incwm a gollwyd.

Diagram showing the contingent valuation

 

Yna rhannodd y tîm ymchwil y canlyniadau gyda'r pysgotwyr i weld a oeddent yn fodlon rhoi cynnig ar y senario yr oedd orau ganddynt. Ar ôl cyfrifo’r pris fesul rhywogaeth siarc , a gyda chefnogaeth ariannol gan y sefydliad Save Our Seas Foundation , dechreuodd y tîm ymchwil brofi'r dull talu-i-ryddhau gan ddefnyddio treialon hapsamplu rheolyddedig.

Fideos o ryddhau siarcod a goblygiadau hirdymor

Gyda chamerâu fideo, gofynnwyd i bysgotwyr gwirfoddol gyflwyno fideos o bysgod lletem a morgwn pen morthwyl yn cael eu rhyddhau, a fyddai ar ôl eu cyflwyno yn arwain at daliad digolledu. Mae’r treial yn dal i fynd rhagddo, ond mae’n ymddangos bod data a gasglwyd drwyddi draw yn dangos bod pysgotwyr sy’n cael y taliad iawndal yn fwy tebygol o lawer i leihau eu dalfeydd o bysgod lletem o gymharu â’r rhai mewn grŵp rheolydd, heb unrhyw effaith ar fywoliaeth a lles pysgotwyr, gan ei wneud yn ddewis dichonadwy posibl i leihau sgil-ddalfa tra’n cynnal llesiant pysgotwyr ar raddfa fach.

Fodd bynnag, er mwyn iddo weithio yn y tymor hir, mae’r cynllun talu i ryddhau angen cyllid cynaliadwy, a dyna pam yr ymchwiliodd Hollie a’r tîm i ddewisiadau ariannu megis defnyddio ardollau twristiaeth (y buddiolwr yn talu) neu ardollau sgil-ddalfa mewn pysgodfeydd masnachol (y llygrwr yn talu). Roedd y canlyniadau'n dangos parodrwydd twristiaid môr i dalu a'r potensial i’r ardollau sgil-ddalfa godi miliynau o bunnoedd.

Pwysleisiodd Hollie, fodd bynnag, nad oes y fath beth ag un ateb i bopeth. Er y bu’r treial yn llwyddiannus mewn astudiaeth achos o bysgodfeydd, mae angen ymchwil pellach o hyd i ddeall sut y gallai'r dull weithio mewn gwahanol gyd-destunau ac ar gyfer gwahanol rywogaethau. Mae Hollie bellach yn gweithio ar ehangu'r dull gweithredu i wahanol leoedd, ynghyd â chydweithwyr lleol, i ddeall a ellir ei gymhwyso mewn mannau eraill a sut.

Gwersi allweddol a ddysgwyd ar gyfer cadwraeth a gwytnwch ecosystemau

● Mae cyfaddawdu ym mhobman ac mae cadwraeth bob amser yn golygu cost i rywun, yn rhywle.

● Mae cadwraeth yn y pen draw yn ymwneud â phobl a'r dewisiadau a wnânt - rhaid i randdeiliaid lleol fod yn rhan o unrhyw benderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt.

● Mae'r byd go iawn yn gymhleth ac yn ddeinamig - mae asesiadau effaith cadarn a rheolaeth ymaddasol yn allweddol.

● Nid oes unrhyw atebion syml - mae angen addasu problemau cadwraeth yn ôl y cyd-destun.

Ymgysylltu â Dr Hollie Booth

Cafodd Dr Hollie Booth DPhil mewn Swoleg ym Mhrifysgol Rhydychen ar ‘Interdisciplinary Approaches to Sharks and Ray Conservation’, ac mae bellach yn rhannu ei hamser rhwng parhau â’i hymchwil yn Rhydychen a darparu cyngor arbenigol yn The Biodiversity Consultancy, sy'n rhoi gwybodaeth i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus am reoli bioamrywiaeth.

I ddilyn gwaith parhaus Hollie ac i weld fideos ciwt o siarcod, ewch i Twitter:

https://twitter.com/hollieboothie/status/1647945745696161792

Ysgrifennwyd yr erthygl blog hon fel rhan o gyfres o weminarau a drefnwyd gan thema Ymchwil Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg ar Gadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gwydn, sy’n dangos yr ymchwil rhyngddisgyblaethol a wneir ym Mangor a thu hwnt ar gadwraeth ac adfer ecosystemau. Os yw eich ymchwil yn cyd-fynd â'n thema, dewch i'w gyflwyno ym Mangor trwy gysylltu â ni yma.