Cyhoeddi briff polisi ar adfer coedwigoedd a datgoedwigo yng Ngholombia
Cyfrannodd y Cymrawd Ymchwil Cydweithredol NERC-IIASA, Eleanor Warren-Thomas, waith modelu a dylunio senarios ar gyfer briff polisi newydd ar adfer coedwigoedd a datgoedwigo yng Ngholombia, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gonsortiwm FABLE, sy’n rhan o Rwydwaith Datblygu ac Atebion Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r ymchwil newydd hwnnw gan dîm Colombia Consortiwm FABLE sy’n fenter o dan FOLU, y Sefydliad Rhyngwladol er Dadansoddi Systemau Cymhwysol (IIASA), a Phrifysgol Bangor, yn dangos y cyfleoedd a’r canlyniadau posibl o ran adfer coedwigoedd yng Ngholombia. Mae’r canfyddiadau’n dangos pa mor bwysig yw gwarchod rhag datgoedwigo pellach er mwyn sicrhau na fydd allyriadau carbon o goedwigoedd yn y dyfodol, a’r cyfleoedd i adfer coedwigoedd heb effeithio ar y cynhyrchiant amaethyddol trwy ganolbwyntio ar borfeydd isel eu dwysedd.
Rhwng 2000 a 2020, trowyd tua 4.9 miliwn ha o goedwigoedd naturiol yn laswelltir yng Ngholombia. Yn 2021-2022 y macrofasn yr effeithiwyd arni fwyaf oedd yr Amazon, a oedd yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r datgoedwigo (0.11 Miliwn ha), ac yna'r un Andeaidd gyda 17%. Rhwng 2005 a 2015, cafodd 50% o’r ardaloedd datgoedwigo eu trawsnewid yn borfeydd yn ffermio gwartheg isel eu cynhyrchiant. Mae tyfu cnydau anghyfreithlon yn dal yn broblem ond yn y 34 mlynedd diwethaf, disodlodd ffermio gwartheg ffermio coca fel y prif ffactor sy’n peri colli coedwigoedd y tu allan i'r ardal lle caniateir gweithgareddau amaethyddol (y 'Ffin Amaethyddol').
Adolygwyd pum polisi sy'n anelu at atal datgoedwigo a gwella adferiad yng Ngholombia. Bu’r briff yn dadansoddi’r effeithiau posibl ar ddefnydd tir, cynhyrchu amaethyddol, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) erbyn 2030 a 2040 trwy ddefnyddio GLOBIOM-Colombia (model ecwilibriwm rhannol a gafodd ei raddnodi a'i addasu i gyd-destun Colombia).
Dangosodd yr adolygiad o’r polisïau fod targed cenedlaethol bras ar gyfer adfer yng Ngholombia o 1 Miliwn ha. Fodd bynnag, nid yw’r polisïau adfer yn gyson ynghylch yr arwynebedd cyfan, y math o orchudd tir a dargedwyd i’w adfer, ac a yw'r gwaith adfer arfaethedig yn oddefol neu'n weithredol.
Mae'r briff yn argymell bod Cynllun Adfer Cenedlaethol diwygiedig Colombia yn ystyried canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae ecosystemau yn y perygl mwyaf, hyd yn oed os ydynt y tu mewn i'r Ffin Amaethyddol, os yw’r cynhyrchiant amaethyddol yn isel a bod adfywiad naturiol yn bosib ar gyfer adferiad ecolegol goddefol. Hefyd, byddai angen cefnogaeth y cymunedau gwledig a’r ffermwyr i atal, dadleoli, neu gyfyngu ar ehangu gweithgaredd amaethyddol mewn rhai ardaloedd er mwyn osgoi datgoedwigo. Er mwyn gwireddu’r llwybrau hynny, mae angen i Golombia weithredu set o ymyriadau cyflenwol, megis cymhellion, cefnogaeth i ffurfioli perchnogaeth tir, cyfarfodydd bord gron cymunedol, a pholisïau sy’n cefnogi creu swyddi i’r boblogaeth weithiol wledig y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â datgoedwigo.
Cewch ddarllen y briff yma (caiff fersiwn Sbaeneg ei uwchlwytho i'r wefan yn fuan hefyd).