Mae rhaglen Mentergarwch Trwy Ddylunio wedi ei enwi’n enillydd y wobr catalydd mentergarwch yng ngwobrau’r National Enterprise Educator Awards 2021.
Cafodd y wobr ei chyflwyno am effaith gref y rhaglen ar fyfyrwyr a datblygiad rhanbarthol ers i’r cynllun ddechrau yn 2010, gyda 72% o’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn adnabod cynnydd yn eu sgiliau mentergarwch.
Mae’r gwobrau, sy’n rhedeg ers 2009, yn canolbwyntio ar ragoriaeth o fewn entrepreneuriaeth ac addysg mentergarwch o fewn addysg uwch ac addysg bellach yn y DU.
Mentergarwch Trwy Ddylunio - beth yw'r rhaglen yma? (fideo i sianel Enterprise Educators UK)
Yn 2021, gweithiodd project Prifysgol Bangor ynghyd â’r fenter gymdeithasol Growing for Change, yr entrepreneur Emlyn Williams, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cafodd myfyrwyr eu herio i ddatblygu cynnig ar gyfer mentrau bwyd sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd mewn ffordd sy’n ariannol bosib, sy’n medru cynnig buddiannau iechyd ac helpu adfywio’r economi leol.
Cymerodd israddedigion o gyrsiau busnes, gwyddorau cyfrifiadurol a pheirianneg electroneg, seicoleg, cerddoriaeth a’r cyfryngau a’r gwyddorau naturiol ran yn y rhaglen eleni.
Sicrhaodd y tîm buddugol nid yn unig gwobr £2,500 o bunnau i ddatblygu eu syniad mentrus gyda busnesau eraill o Wynedd, ond hefyd cyfle i gymryd rhan mewn bŵt camp ar-lein i hel syniadau gydag aelodau o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Hanoi yn Fietnam.
Y cyfarfod oedd y cam cyntaf yn y broses o esblygu’r rhaglen, gan sefydlu llwybrau rhyngwladol er mwyn cynnig cyfle i fyfyrwyr gydweithio â phartneriaid byd-eang.
Bydd Mentergarwch Trwy Ddylunio hefyd yn cael ei ymestyn i entrepreneuriaid ifanc, gyda’r rhaglen yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd ar draws gogledd-orllewin Cymru am y tro cyntaf eleni.
Mae’n bleser cael y gydnabyddiaeth yma i’r project sy’n gwthio’r ffiniau o’r hyn y gall addysg sydd â phwyslais ar fentergarwch fod, a’r effaith y mae’n bosib ei gael ar fyfyrwyr a busnesau lleol.
Problem gyffredin yr ydym yn ei glywed gan gyflogwyr yw bod myfyrwyr yn dod allan o’r brifysgol gyda’r wybodaeth yn eu maes, ond heb brofiad am sut i weithio mewn timoedd rhyngddisgyblaethol neu rhyng-ddiwylliannol, sy’n sgiliau angenrheidiol ar gyfer cwmnïau sy’n ceisio creu gwerth mewn amgylchedd gynyddol gysylltiedig a byd-eang.
“Mae Mentergarwch Trwy Ddylunio yn trwsio hynny; mae’r rhaglen yn gweithio i greu myfyrwyr sydd nid yn unig â ffynhonnell ddofn o’u maes penodol, ond hefyd wedi caglu dealltwriaeth eang o ddisgyblaethau eraill a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cydweithio ar draws diwydiannau.
“Er enghraifft, byddai myfyriwr peirianneg yn medru dysgu’r sgiliau creadigol a mentergarwch sy’n angenrheidiol i ddechrau rheoli busnes, neu fynd at broblem o safbwynt cyfrwng.”
Gan ddod â myfyrwyr o fyd busnes, y celfyddydau, gwyddoniaeth a pheirianneg at ei gilydd a’i rhoi i mewn i dimoedd rhyngddisgyblaethol, mae Mentergarwch Trwy Ddylunio yn rhaglen 10 wythnos sydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cyflogadwyedd a sgiliau mentergarwch myfyrwyr.
Mae myfyrwyr yn cofrestru eu diddordeb yn fewnol gyda’r rhaglen i gymryd rhan ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau ar y gweill i integreiddio’r cynllun ymhellach i gyrsiau prifysgol yn y dyfodol, gyda Mentergarwch Trwy Ddylunio erbyn hyn yn ran o gwricwlwm dwy o Ysgolion y Brifysgol.
Mae timoedd yn derbyn briff dylunio wedi ei greu gyda diwydiant lleol ac yn cael her i ymchwilio a chreu cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd fydd yn gwella’r economi leol ac yn ymateb i’r gofynion.
Cefnogir myfyrwyr nid yn unig gan staff academaidd, ond hefyd gan ymgynghorwyr busnes arbenigol yn y maes sydd dan sylw, gan hefyd greu ecosystem arloesedd bywiog rhwng y Brifysgol a’r economi leol.
Mae entrepreneuriaid ôl-radd a chyn-fyfyrwyr hefyd yn helpu gyda gwaith y myfyrwyr yn ystod y rhaglen, gan adlewyrchu’r profiad o gydweithio sydd yn y gweithlu heddiw.
Ychwanegodd Dr Goodman, “Mae cael ein gwobrwyo fel arweinydd yn y maes yn dangos bod y gwaith yr ydym yn ei wneud i baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle yn cael effaith, nid yn unig o ran datblygiad proffesiynol yr unigolion sy’n cymryd rhan, ond hefyd o ran eu hunanhyder ac o ran datblygu eu talentau.
“Trwy gydweithio â busnesau a sefydliadau lleol, caiff y myfyrwyr nid yn unig budd o’r profiad ymarferol o weithle rhithwir, ond mae’r cwmnïau yma hefyd yn cael mewnwelediad i ffyrdd newydd ac arloesol o wella’r rhanbarth a’r economi leol.”
Am ragor o wybodaeth am Mentergarwch Trwy Ddylunio, ewch i https://www.enterprisebydesign.co.uk