Mae un o lynnoedd dŵr croyw mwyaf y byd yn profi’n fodel defnyddiol i ragweld sut mae tywydd poeth yn sbarduno blymau syanofacteria a allai fod yn niweidiol mewn llynnoedd dŵr croyw.
Mae ewtroffeiddio, y cylch lle mae maetholion yn gorsymbylu twf neu ‘blymau’ plancton neu syanofacteriaidd a allai fod yn niweidiol, mewn llynnoedd dŵr croyw yn broblem mewn 60% a mwy o’r ddyfroedd mewndirol byd-eang. Mi wnaiff y newid yn yr hinsawdd waethygu’r broblem, a’r flaenoriaeth inni felly yw lleihau mewnbynnau maetholion allanol er mwyn lleihau sail achosion blodau syanofacteraidd.
Mae astudiaeth o lyn yn Tsieina, sy’n ffynhonnell bwysig o ddŵr i fwy nag 20 miliwn o bobl ac i ddiwydiant, yn dangos y mecanweithiau rhwng tywydd poeth ar lynnoedd a 'blymau' syanofacteraidd a allai fod yn wenwynig.
Mae ymchwil Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor a chydweithwyr ymchwil yn Academi Gwyddorau Tsieina, Nanjing, a Phrifysgol Aarhus, Denmarc, a gyhoeddwyd yn Science of the Total Environment (https://doi.org/10.1016/j.scitotenv.2023.165312) yn astudio'r tywydd poeth a brofwyd yn 2022 yn Llyn Taihu, un o lynnoedd dŵr croyw mwyaf Tsieina yn nelta Yangtze, ac mae'r syanofacteria dan sylw’n lluosi mewn nifer. (Mae syanofacteria’n debyg i blancton. O dan rai amodau gallant ffynnu mewn dŵr croyw a pheri niwed i blanhigion ac anifeiliaid eraill).
Cynnydd yn nhymheredd yr aer ar yr wyneb yw un o ganlyniadau mwyaf cydnabyddedig y newid yn yr hinsawdd o waith dyn. Mewn llynnoedd, mae 'dŵr ffo' o weithgareddau dynol eraill yn gwaethygu pethau trwy ychwanegu maetholion i'r llynnoedd, ac mae'r rheini yn eu tro’n helpu'r syanobacteria ffynnu. Mae cynnydd yn nhymheredd dŵr wyneb y llyn yn effeithio ar holl amgylchedd y llyn.
Dywed Woolway,
“Yn ogystal â sicrhau bod llai o ddŵr ffo’n mynd i ddŵr croyw yn sgil ein gweithgareddau, dylem anelu at fonitro systematig, rhagfynegi a rhybuddion cynnar i leihau effaith niweidiol tywydd poeth ar ecosystemau llynnoedd. Mae angen inni ddeall yn well y mecanweithiau a’r sbardunau mewn llynnoedd sydd â lefelau maetholion gwahanol er mwyn llunio strategaethau i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo.”
Wrth egluro'r cefndir ychwanega Woolway,
“Mae’r cyfan yn gylch dieflig mewn tywydd poeth. Mae tymheredd uwch yn lleihau’r cymysgu fertigol yn y golofn dŵr croyw. Mae hynny o fudd i’r syanobacteria sydd ar wyneb y dŵr sy’n ffurfio blŵm trwchus ar yr wyneb. Mae'r blŵm trwchus hynny, yn ei dro, yn cynyddu tymheredd y dŵr ychydig. Mae'r gwyntoedd is a brofir mewn tywydd poeth hefyd yn peri bod llai o gymysgu yn y golofn ddŵr a bod llai o ocsigen toddedig yn y dŵr. Yn ei dro, mae’r lefelau ocsigen toddedig isel ar waelod y llyn yn peri cynnydd yn y ffosfforws sy’n codi o’r gwaddod, ac mae hynny’n cefnogi twf pellach o fwy o syanofacteria.”
“Rhagwelir y bydd tywydd poeth yn cynyddu un ar ddeg gwaith yn ystod y ganrif hon, a bydd effeithiau negyddol dwys yn sgil hynny ar strwythur, swyddogaeth a gwasanaethau ecosystemau’r systemau dyfrol.”