Bu staff academaidd o’r adran gwyddor chwaraeon ac ymarfer, sydd â bri rhyngwladol iddi, yn cyflwyno detholiad eang o ymchwil i CPDC gan ddangos y gwaith llawn effaith y maent yn ei wneud. Mae hyn yn cwmpasu pob dim o gefnogaeth iechyd meddwl o fewn pêl-droed proffesiynol; datblygu talent a pherfformiad i atal anafiadau o fewn pêl-droed merched a gwella lles chwaraewyr o fewn pêl-droed. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i rannu’r diweddaraf am ddatblygid Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a’r ddarpariaeth helaeth o hyfforddiant y mae’r Brifysgol yn ei gynnig ar gyfer hyfforddwyr ac ymarferwyr.
Meddai Dave Richardson, Pennaeth yr Ysgol,
“Mae ein hymchwil yn cwmpasu gwella perfformiad, cefnogaeth iechyd meddwl, datblygiad chwaraewyr a lles chwaraewyr ac athletwyr ar draws pêl-droed dynion, merched ac ieuenctid, felly roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i ddangos y gwaith llawn effaith yr ydym yn ei wneud. Rydym yn awyddus i ddatblygu perthynas fwy strategol gyda CPDC fel y gall ein gwaith ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.”
Fel rhan o’n strategaeth Perfformiad Uchel, rydym wedi ymrwymo i ysgogi mewnwelediadau cymhwysol drwy ein Canolfan Ymchwil Pêl-droed i wneud penderfyniadau gwybodus ar draws ein Timau Cenedlaethol Gwrywaidd a Benywaidd. Mae’r ymweliad hwn â Phrifysgol Bangor yn ein galluogi i gysylltu ag academyddion o’r radd uchaf a all gyfrannu at ddatblygu ein hamgylchedd a’n chwaraewyr