Gan adeiladu ar waith blaenorol a ddatgelodd pa mor gyflym mae tymheredd wyneb llynnoedd ledled y byd yn codi, mae Dr Iestyn Woolway a chydweithwyr yn Tsieina, wedi ehangu ar ein dealltwriaeth o lynnoedd lledred uchel (>60° Gogledd), trwy gynnwys rhagor o lynnoedd ac astudio eu tymereddau.
Defnyddiodd yr astudiaeth yn Nature Water ddata lloeren a modelu rhifiadol i ddadansoddi tymereddau dŵr wyneb 92,245 o lynnoedd.
Er bod llynnoedd wedi cynhesu ar gyfradd o 0.24 gradd Celsius y degawd rhwng 1981 a 2020, mae hyn yn dal yn arafach na'r newid yn y tymheredd aer wyneb (0.29 gradd Celsius y degawd) yn ystod yr un cyfnod. Y prif reswm yw bod tymheredd aer uwch yn cynyddu anweddiad, sydd, yn ei dro, yn oeri wyneb llynnoedd.
Canfu'r astudiaeth hefyd mai llynnoedd lledred uchel sy'n cynhesu gyflymaf. Mae hyn oherwydd bod llynnoedd yn y rhanbarthau hyn yn fwy sensitif i newidiadau yn yr hinsawdd.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Darllenydd ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae llynnoedd yn ecosystemau pwysig. Maent yn darparu amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys dŵr yfed, hamdden, a chynefin i bysgod a bywyd dyfrol arall. Mae llynnoedd sy’n cynhesu yn fygythiad difrifol i’r ecosystemau bregus hyn, gan y gall arwain at newidiadau yn ansawdd y dŵr, at ragor o flŵm algaidd, ac at ladd pysgod. Mae llynnoedd hefyd yn dylanwadu ar brosesau geoffisegol byd-eang ehangach megis patrymau tywydd, cylchredau hydrolegol, a dosbarthiad adnoddau dŵr croyw.”
“Mae’r astudiaeth newydd yn amlygu’r angen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn lliniaru effeithiau llynnoedd sy’n cynhesu. Mae hefyd yn darparu data gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i astudio effeithiau llynnoedd sy’n cynhesu a datblygu strategaethau addasu.”