Mae’r papur ymchwil (yn Nature Communications) yn defnyddio data am dymheredd llynnoedd, yn ddata hanesyddol ac yn ddata sydd wedi ei fodelu i edrych pryd mae’r gwanwyn a’r hydref yn digwydd fel arfer ledled y byd, er mwyn dangos faint mae tro’r tymhorau wedi newid yn rhanbarthau gwahanol y byd ac amcangyfrif sut y bydd y tymhorau’n newid yn y dyfodol.
Ers 1980 mae tymereddau’r gwanwyn a’r haf yn hemisffer y Gogledd wedi cyrraedd yn gynharach (2.0- a 4.3- diwrnod fesul degawd, yn y drefn honno), tra bod dyfodiad yr hydref 1.5 diwrnod yn hwyrach fesul degawd a bod hyd tymor yr haf wedi ymestyn 5.6 diwrnod fesul degawd. Yn y ganrif hon, o dan senario o allyriadau uchel o nwyon tŷ gwydr, bydd tymereddau cyfredol y gwanwyn a’r haf yn cyrraedd yn gynharach byth (3.3- a 8.3- diwrnod fesul degawd, yn y drefn honno), bydd tymereddau’r hydref yn cyrraedd yn hwyrach (3.1 diwrnod fesul degawd), a bydd hyd tymor yr haf yn ymestyn fwyfwy (12.1 diwrnod fesul degawd).
Tra bod temtasiwn efallai i groesawu gwanwyn cynnar a haf hirfelyn tesog, byddai’r ymateb hwnnw yn un rhy syml. Gall y canlyniadau fod yn drychinebus i fyd natur. O fewn y llynnoedd eu hunain, mae rhywogaethau dyfrol yn ymateb i arwyddion thermol sy’n cael eu sbarduno gan dymheredd dŵr y llyn. Mewn hinsawdd sefydlog, bydd digwyddiadau tymhorol megis silio yn cyd-ddigwydd gyda digwyddiadau eraill a fyddai, er enghraifft, yn darparu bwyd.
Mae Dr Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn awdurdod blaenllaw yn y maes ac mae ei bapur diweddaraf yn adeiladu ar ymchwil blaenorol gan ddatblygu methodoleg newydd i edrych ar y shifft dymhorol mewn llynnoedd ledled y byd. Mae gwaith tebyg yn bodoli ar gyfer tymereddau aer a thymereddau’r cefnforoedd, ond dyma’r ymchwil cyntaf i edrych ar ddŵr croyw, sy’n adnodd mor hanfodol i’r byd, yn cynnal yr amgylchedd ac yn diwallu ein hanghenion ninnau.
Un peth y mae’r papur yn rhoi sylw penodol iddo yw Llynnoedd Mawr Gogledd America. Mae arwynebedd y llynnoedd yn fwy o ran maint na Phrydain Fawr, ac maent yn effeithio ar boblogaethau mawr a gallant hyd yn oed effeithio ar economi America. Mae’n hawdd codi data manwl am lynnoedd o’r maint yma yn defnyddio lloerennau. Oni bai am lynnoedd mawrion megis Windermere neu Lyn Tegid, er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o lynnoedd Prydain yn rhy fach i gael eu monitro’n fanwl yn defnyddio lloerennau. Yn hytrach mae’r llynnoedd bychain hyn yn cael eu cynnwys mewn efelychiadau ar raddfa leol.
Mae’r diddordeb mewn ymatebion llynnoedd i newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu yn y pum mlynedd diwethaf. Tra bod y rhan fwyaf o astudiaethau’n edrych ar newidiadau yn nymheredd llynnoedd unigol neu dymheredd cymedrig mewn nifer fechan o lynnoedd, mae Woolway yn gweithio ar greu darlun byd eang (ac eithrio llynnoedd o dan rew) o batrymau ar raddfa fanwl yn ymatebion llynnoedd i newid yn yr hinsawdd, gan roi gwybod i ni, am y tro cyntaf, sut y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar shifftiau tymhorol mewn llynnoedd.
Fel yr esbonia Woolway, bydd tystiolaeth o amrywiol ffynonellau data lloeren yn galluogi iddo ganfod patrwm neu ymateb cyson, tra bod efelychiadau ensemblau mawr yn ceisio mynd y tu hwnt i’r ansicrwydd a’r cyfyngiadau sy’n anochel yn cael eu cynhyrchu gan fodelau sengl.