Adroddwyd mewn astudiaeth ryngwladol heddiw yn Nature, fod coedwigoedd cyfan ar fynyddoedd trofannol (neu fynyddig) yn Affrica’n storio tua 150 tunnell o garbon yr hectar. Golyga hynny fod hectar o goedwig yn arbed allyriadau CO2 sy'n cyfateb i bweru 100 o gartrefi gyda thrydan am flwyddyn.
Canfu’r astudiaeth fod coedwigoedd mynyddoedd Affrica’n storio mwy o garbon fesul uned o arwynebedd na choedwigoedd glaw’r Amazon a’u bod yn debyg o ran eu strwythur i goedwigoedd iseldir Affrica. Mae canllawiau presennol coedwigoedd mynydd Affrica yn rhagdybio bod 89 tunnell o garbon yr hectar. Mae hynny’n tanamcangyfrif eu rôl yn fawr yn y broses o reoleiddio’r hinsawdd yn fyd-eang.
Bu’r tîm rhyngwladol yn ymchwilio hefyd i weld faint o goedwigoedd mynydd trofannol a gollwyd o gyfandir Affrica yn yr 20 mlynedd diwethaf. Cawsant fod 0.8 miliwn hectar wedi eu colli, yn bennaf yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Uganda ac Ethiopia, gan allyrru dros 450 miliwn tunnell o CO22 i'r awyr. Os bydd y cyfraddau datgoedwigo cyfredol yn parhau, caiff 0.5 miliwn hectar arall o'r coedwigoedd hyn eu colli erbyn 2030.
Dywedodd yr awdur arweiniol Dr Aida Cuni-Sanchez, o Adran Yr Amgylchedd a Daearyddiaeth Prifysgol Efrog a Phrifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy: “Mae'r canlyniadau'n peri syndod oherwydd byddai disgwyl i hinsawdd y mynyddoedd esgor ar goedwigoedd carbon isel. Dylai tymereddau is y mynyddoedd a'r cyfnodau hir y mae cymylau yn eu gorchuddio’n arafu twf y coed, a gallai’r gwyntoedd cryfion a’r llethrau ansefydlog serth gyfyngu ar faint y coed cyn iddynt gwympo a marw.
Ond yn wahanol i gyfandiroedd eraill, yn Affrica gwelsom yr un faint o garbon fesul pob uned arwynebedd yng nghoedwigoedd yr iseldir a’r mynyddoedd. Yn wahanol i'r disgwyl, mae digonedd o goed mawr yn y coedwigoedd mynyddig, ac mae'r coed mawr hynny (a ddiffinnir fel rhai sydd â diamedrau dros 70 cm) yn storio llawer iawn o garbon”.
Mesurodd gwyddonwyr 72,000 o goed mewn 44 o safleoedd mynyddig mewn 12 gwlad yn Affrica, o Guinea i Ethiopia, ac i gyfeiriad y de hyd Mozambique. Ym mhob safle mynyddig fe wnaethant sefydlu lleiniau a chofnodi diamedr, uchder a rhywogaeth pob coeden. Dywedodd yr ymchwilwyr ei bod yn bwysig iawn gwybod faint o garbon mae coedwigoedd mynydd yn ei storio i'r deg gwlad yn Affrica gan mai'r unig goedwigoedd trofannol sydd ganddyn nhw yw'r rhai yn y mynyddoedd.
Dywedodd y cyd-awdur yr Athro Simon Willcock o Rothamsted Research a Phrifysgol Bangor: “Bydd angen ymdrech gydweithredol enfawr gan nifer fawr o wyddonwyr i fesur cynifer â hynny o goed ledled Affrica, ond bydd yn rhoi gwell darlun inni o’r carbon sy’n cael ei storio yng nghoedwigoedd Affrica”.
“Er y gwyddom yr hyn sy’n arbennig am goedwigoedd Affrica, ni wyddom pam maen nhw'n wahanol. Mae'n bosibl yn Affrica bod llysysyddion mawr fel eliffantod yn chwarae rhan bwysig yn ecoleg y coedwigoedd mynydd, oherwydd eu bod fel anifeiliaid mawr yn gwasgaru hadau a maetholion, ac yn bwyta coed bach gan greu lle i eraill dyfu'n fwy, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil” ychwanegodd Dr Cuni-Sanchez.
Coedwigoedd trofannol mynyddoedd
Dywedodd y cyd-awdur Dr Phil Platts, o Adran yr Amgylchedd a Daearyddiaeth Efrog a Grŵp Arbenigol Newid Hinsawdd IUCN: “Mae tua 5 y cant o goedwigoedd mynydd trofannol Affrica wedi’u clirio ers 2000, ac mewn rhai gwledydd mae’r gyfradd yn uwch nag 20 y cant. Yn ogystal â’u pwysigrwydd i reoleiddio’r hinsawdd, mae'r coedwigoedd yn gynefin i lawer o rywogaethau prin a rhai ohonynt mewn perygl, ac maent yn darparu gwasanaethau dŵr pwysig iawn i filiynau o bobl i wared afon”.
Mae'r rhan fwyaf o genhedloedd Affrica wedi ymrwymo llawer iawn o dir i adfer coedwigoedd o dan Her Bonn. Er bod adfer coedwigoedd yn bwysig i liniaru’r newid yn yr hinsawdd, mae gwarchod rhag datgoedwigo’n fwy o flaenoriaeth.
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Martin Sullivan, o Adran y Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Fetropolitan Manceinion:
“Roedd yr amcangyfrifon carbon blaenorol ar gyfer coedwigoedd mynydd trofannol yn Affrica yn llawer is na’r ffigurau a welwch yn ein hastudiaeth. Gobeithiwn y bydd y data newydd yma’n fodd i annog mecanweithiau cyllid carbon a wnaiff warchod rhag datgoedwigo mewn mynyddoedd trofannol. Fel y nodir yng Nghytundeb Paris, rhaid gwneud lleihau datgoedwigo trofannol, yng nghoedwigoedd yr iseldir a’r mynyddoedd yn flaenoriaeth”.
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Gerard Imani, yn yr Adran Bioleg, Université Oficielle de Bukavu yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo:
“Gallai mecanweithiau cyllid carbon helpu gwella ymyraethau cadwraeth ar lawr gwlad - hyd yn oed o fewn ardaloedd gwarchodedig, mae datgoedwigo, diraddio coedwigoedd a dileu planhigion yn parhau i fod yn her”.