Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn dadansoddi trethi ar economïau ymwelwyr ac yn cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â mannau eraill. Defnyddir y dadansoddiad fel tystiolaeth yn yr ymgynghoriad ar yr ardoll dwristiaeth yng Nghymru.
Wrth gymharu diwydiant twristiaeth Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewrop, mae rhai cymariaethau ac ystadegau diddorol wedi dod i'r amlwg. Mae dadansoddiad gan yr economegydd Dr Rhys ap Gwilym a’i gydweithwyr yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor wedi tynnu sylw at y gwledydd sydd â sector twristiaeth o’r un faint a phwysigrwydd â Chymru.
Datgelodd y dadansoddiad mai Denmarc, Sweden, yr Iseldiroedd, Norwy a Ffrainc sydd â sector twristiaeth sydd fwyaf tebyg i sector twristiaeth Cymru. O ddewis y rhain fel 'cymaryddion', mae wedi dod i’r amlwg y byddai’n amgenach cymharu sector twristiaeth Cymru, yn economaidd, â'r pum gwlad hyn yn hytrach na'r sector cyfagos yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Seiliwyd y dadansoddiad ar nifer o ffactorau gan gynnwys canran y cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) a gyfrannwyd gan y sector a chanran y boblogaeth a gyflogir yn y sector twristiaeth.
Gwelyau
Cynhyrchodd y dadansoddiad hefyd ganlyniadau diddorol mewn perthynas â chapasiti. Roedd Cymru ar frig y tabl Ewropeaidd o ran capasiti llety i dwristiaid y pen.
Meddai Dr Rhys ap Gwilym: “Un canfyddiad sy’n peri syndod o’r data crai yw mai Cymru yw’r wlad sydd â’r nifer fwyaf o welyau i dwristiaid y pen o’r boblogaeth o unrhyw wlad Ewropeaidd. Mae llawer iawn o letyau Cymru mewn meysydd gwersylla a charafanau, yn hytrach na gwestai. Un canlyniad i hyn yw nad yw capasiti twristiaeth uchel Cymru yn trosi’n gyfraniadau uchel at gyflogaeth neu incwm.”
Hefyd, roedd tebygrwydd rhwng Cymru a’r pum gwlad gymharol er gwaethaf y ffaith bod eu systemau treth yn wahanol iawn. Mae gan wledydd Sgandinafia refeniw treth cyffredinol uwch fel cyfran o CMC, a lefelau llawer uwch o wariant gan y llywodraeth. O'r pump, dim ond dwy, Ffrainc a'r Iseldiroedd, sy’n codi ardoll dwristiaeth.
“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod micro-ddiwydiannau Cymru yn gwneud yn llawer gwell o dan system dreth y Deyrnas Unedig, na micro-ddiwydiannau yn yr economïau cymharol. Fodd bynnag, mae menter fach i ganolig fel gwesty teuluol, gyda throsiant uwchlaw’r trothwy TAW, yn nes at y gwledydd cymharol o ran beichiau treth cyffredinol.”
O ran y posibilrwydd o godi ardoll dwristiaeth yng Nghymru, dywedodd Rhys:
“Dim ond cyfran gymedrol (rhwng 5-15%) o’r baich treth cyffredinol yw’r ardoll dwristiaeth yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Yng Nghymru, os ydych yn credu bod y sector twristiaeth yn cael ei or-drethu, yna efallai y dylech ganolbwyntio ar lefel y TAW yn hytrach na’r ardoll dwristiaeth arfaethedig.”
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth bosib yng Nghymru. Os daw i rym, gallai hyn alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth neu dreth ar bobl sy’n dod i ymweld ac yn aros am noson neu fwy.