Mae’r Grant Teithio Tramor Wartski, sy’n cael ei ariannu trwy haelioni ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gan Isidore a Winifred Marie Wartski, yn gyfle gwych i fyfyrwyr Prifysgol Bangor wella eu haddysg trwy deithio dramor. Mae'r wobr fawreddog hon yn adlewyrchu treftadaeth falch y teulu Wartski, gan fod ganddo gysylltiad hanesyddol â'r gemweithwyr Wartski a sefydlodd ym Mangor a'r gemweithwyr sydd erbyn hyn wedi eu lleoli yn Llundain. Bob blwyddyn academaidd, dyfernir y grant i un myfyriwr o bob coleg.

Hoffwn ddiolch i noddwyr gwobr deithio tramor Wartski am ddewis fy mhroject i'w ariannu. Ni fyddwn wedi gallu ymgymryd â thaith o’r fath heb gymorth ariannol. Mae mynd i gynhadledd ryngwladol yn brofiad pwysig a ffurfiannol i ymchwilydd ôl-radd, yn fy marn i. Rwy’n ddiolchgar iawn bod eich gwobr wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath a chael cyfle i deimlo cysylltiad â rhwydwaith ehangach o ysgolheigion yn fy maes. Mae’r buddion a gefais o’r gynhadledd wedi bod yn niferus, gan gynnwys ysbrydoliaeth ar gyfer y dull damcaniaethol a methodolegol i’r traethawd ymchwil, cyswllt ag ysgolheigion yn fy maes astudio a phrofiadau diwylliannol gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi fy astudiaethau a’m haddysgu ym Mangor. Diolch yn fawr eto am ddewis fy mhroject. Isod mae ffotograffau gyda chapsiynau sy'n dangos rhai o leoliadau a gweithgareddau pwysig fy ymweliad.
Elsa Barratt, Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig - Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau