Ymweld ag ucheldiroedd Anjouan
Blogbost gan Dr Edwin Pynegar
Dyma ni allan yn y maes yn ucheldiroedd Anjouan uwchben pentref Adda-Douéni! Mae Paolo Trimarchi (chwith) yn ymgeisydd am radd MSc o Brifysgol Copenhagen, yn ymweld i ddeall y project a chyd-destun Anjouan yn well. Rydyn ni yma gyda thechnegwyr Dahari Ishaka Said (yr ail ar y chwith) a Samirou Soulaïmana (yr ail ar y dde), i nodi lleoliadau a thynnu ffotograffau o rywogaethau coed brodorol sy’n darparu gwasanaethau ecosystemau’n lleol, yn ogystal â hedfan dronau i roi cynnig ar ddatblygu “strwythur o symudiadau” modelau 3D o'r dirwedd. Cawsom hefyd olwg dda ar ffiniau’r goedwig ar Anjouan.