Alex Capon (Mathemateg Pur, 1967)
Roedd Alex yn astudio Mathemateg (BSc.) yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1964-67) ac astudiodd Diploma Dip Ed. yn y brifysgol (1968). Bu’n dysgu yn ardal Grimsby ac roedd yn bennaeth Mathemateg mewn ysgol Gyfun yno am nifer o flynyddoedd.
Treuliodd Alex ddwy flynedd fel myfyriwr preswyl yn Neuadd Reichel ar Ffordd Ffriddoedd a bydd llawer o'i gyfoedion yn ei gofio yno. Dyna'r blynyddoedd pan oedd y dynion yn Reichel yn dal i wisgo gynau israddedig i ginio bob nos ac roedd cymunedau'r Neuaddau yn amgylcheddau ffyniannus a chefnogol.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu Alex yn aelod gweithgar o Glwb Pêl-droed y Brifysgol ac yn ysgrifennydd i'r clwb ym 1967-68. O dan ei arweiniad tyfodd y Clwb Pêl-droed o ddau dîm i bum tîm gan gystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru yn nhymor 1967-68. Yn rhyfeddol, bu Alex yn chwarae tenis i UCNW hefyd ac roedd yn gapten ac yn ysgrifennydd clwb tenis y brifysgol. Bu'n rhan allweddol o drefnu teithiau yn ystod y Pasg o amgylch Iwerddon, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia ar gyfer clwb pêl-droed y brifysgol sawl blwyddyn yn olynol. Uchafbwynt hyn oedd gêm gyfartal 0-0 gyda thîm cryf Prifysgol Prague fisoedd yn unig cyn i'r Rwsiaid oresgyn y wlad.
Dychwelodd Alex i Fangor am nifer o flynyddoedd i ddathlu penwythnosau'r Hen Sêr ac roedd ganddo atgofion melys am ei amser ym Mangor a'r gwmnïaeth a'r llwyddiant a gafodd o'r blynyddoedd hyn.
Mae'n sicr y bydd nifer o ffrindiau Alex yn ei gofio'n annwyl am ei gyfeillgarwch, ei ddawn fel chwaraewr a'i allu i drefnu mewn perthynas â chlybiau chwaraeon y brifysgol.
Lynn James (Celfyddydau, 1967)
Patricia Sorrell (nee Murray)
Daeth Patricia Murray (Tricia neu Trish i bawb) i Borthaethwy ym 1985 fel myfyriwr Daearyddiaeth graddedig o Hull, ar ôl i'r geomorffolegydd arfordirol, John Pethick, danio ei diddordeb yn y gwyddorau morol. Cafodd MSc mewn Eigioneg Ffisegol o dan y Cyfarwyddwr y pryd hynny, Des Barton, a daliodd i ddatblygu ei diddordeb yn nynameg gwaddodion yr arfordir trwy ddilyn modiwlau'r MSc gyfochrog mewn Geotechneg Morol ac ymgymryd â thraethawd hir ar ffurf project maes yn Aber Afon Mawddach o dan oruchwyliaeth Colin Jago.
Roedd yn frwd dros astudio gwaddodion symudol, a dechreuodd wneud PhD ym 1986, o dan oruchwyliaeth Alan Davies o ysgol y Gwyddorau Eigion a Richard Soulsby o Hydraulics Research Wallingford. Yno, newidiodd o fod yn wyddonydd maes i fod yn wyddonydd dynameg gwaddodion go iawn a threuliodd lawer o'i PhD yn ailadeiladu ac yn gosod offer mewn 'cafn digon mawr i gerdded ynddo' yn awyrendai enfawr Wallingford. Cafodd seibiant o astudio am dri mis ar Operation Raleigh yn Guyana yn Ne America lle dangosodd yr un awch am antur ag y gwnaethai yn y mynyddoedd. Fel llawer un mi ddaeth i Fangor yn ddechreuwr lle'r oedd mynydda yn y cwestiwn ond erbyn iddi ymadael roedd yn un o garedigion mwyaf mynyddoedd gogledd Cymru, Ardal y Llynnoedd, yr Alban a'r Alpau.
Bu'n gweithio mewn amrywiol swyddi ymchwil a thechnoleg gwybodaeth mewn prifysgolion yng Nghaergrawnt a Newcastle, ac yn ddiweddarach cafodd swydd barhaol ym Mhrifysgol Sheffield fel arbenigwr a hyfforddwr Addysgu a Dysgu, a bu'n trigo mewn bwthyn ym mhentref hyfryd Hathersage yn y Peak District lle'r ymgartrefodd gyda'i phartner. Julian, a oedd hefyd yn gerddwr ac yn ddringwr.
Fis Rhagfyr 2018 cafodd ddiagnosis o ganser y fron a chafodd driniaeth chemotherapi ond yn anffodus ni fu'n bosib trin y canser eilaidd a bu farw ar y 6ed o Awst 2019. Un cysur, oedd ei hapusrwydd mawr ynghylch priodi Julian bythefnos cyn iddi farw.
Bydd llawer ohonom yn cofio gwên fawr a heintus Tricia a'r hwyl a'r antur oedd yn perthyn iddi. Bydd llawer o gyn-fyfyrwyr a staff Ysgol Gwyddorau'r Eigion yn gweld ei heisiau yn ogystal â'r holl ffrindiau a chydweithwyr eraill y cyfarfu â nhw ar ei hynt trwy fywyd.
Simon White (14.03.1975 – 03.07.2019)
Roedd Simon White, a fu farw ar ôl gwaeledd o flwyddyn, yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol .
Yn 2015 graddiodd o SENRGy gyda Gradd Meistr Ymchwil (2015) yn y Gwyddorau Naturiol. Pan symudodd Simon i'r gogledd am y tro cyntaf yn 2004 bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari (SRT), cwmni bridio tatws yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor. Dechreuodd fel cynorthwyydd maes cyffredinol ond gyda'i feddwl ymchwilgar a'i ddiddordeb dwfn ym mhatholeg planhigion, geneteg ac amaethyddiaeth gynaliadwy buan iawn y dysgodd y sgiliau angenrheidiol i ddod yn Rheolwr Treialon SRT. Arweiniodd y treialon hynny at hyrwyddo mathau o datws megis y Sarpo Mira a'r Sarpo Axona sydd bellach yn boblogaidd gyda garddwyr cartref ledled y Deyrnas Unedig.
Roedd project Gradd Meistr Simon yn astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer defnyddio patrymau DNA unigryw i alluogi tatws i wrthsefyll malltod hwyr. Adeiladodd ei ymchwil PhD ar y gwaith sylfaenol hwn i wneud yn fawr o strategaethau bridio dethol a nodi'r cyfuniadau mwyaf effeithiol o enynnau gwrthiant trwy eu croesi. Aeth ati'n ofalus i gynhyrchu dros 300 o glonau bridio newydd o datws. Fis Mehefin 2018 plannodd ei dreial maes olaf i brofi'r clonau tatws yr oedd wedi darogan y byddent yn gallu gwrthsefyll malltod yn dda (fe wnaethant berfformio'n union fel y rhagwelodd Simon) a lluniodd arbrawf terfynol i werthuso eu cyfansoddiad genetig gan ddefnyddio dilyniannau DNA ymwrthedd blaengar a dargedir at y genynnau.
Mae ei wraig Kate a'i blant Sam a Melissa yn ei oroesi.