Penodiad cyffrous ar gyfer ymchwil arwyddocaol i wleidyddiaeth hanes Cymru
Mae Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am grant bach gan Gronfa Goffa Thomas Ellis (gwerth £1600), sydd wedi galluogi iddynt benodi Swyddog Ymchwil Prosiect Cefnogol i wneud ymchwil sylfaenol.
Mae'r ymchwil tymor-byr yma'n rhan o brosiect y mae Dr Marc Collinson yn ymgymryd ag ef gyda Dr Dinah Evans (cyn-Ddarlithydd a Chymrawd Anrhydeddus Cysylltiol yr Ysgol ar hyn o bryd) am wleidyddiaeth Cymru a datganoli gweinyddol 1964-99.
Dr Matthew Day sydd wedi'i benodi'n Swyddog Ymchwil Prosiect Cefnogol ar gyfer cyfnod byr, sy'n arbenigo ar Geidwadwyr Cymru, gyda phwyslais arbennig ar yr AS a gweinidog, Wyn Roberts. Cwblhaodd Matthew ei PhD dan gyfarwyddyd Dr Mari Wiliam ym Mhrifysgol Bangor yn 2022.
Dywedodd Dr Collinson, "Mae'n wych gallu cynnwys ysgolhaig ôl-ddoethurol "It’s great to involve a post-doctoral scholar in an ongoing research project. The contribution of Dr Matthew Day, with his expertise in north Wales Conservativism and the Welsh Office, will greatly enhance the quality of this project on Welsh politics and devolution, a subject on which Bangor historians have long been interested."