Pwy ydym ni?
Mae Cyfnewidfa Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru yn dwyn ynghyd y cyhoedd, clinigwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb personol neu broffesiynol mewn anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu.
Mae Gogledd Cymru yn lle bendigedig i fyw, dysgu a gweithio ynddo. Rydym yn gwybod fod ein poblogaeth yn heneiddio, ac yn tyfu o ran maint yn y rhan fwyaf o siroedd y rhanbarth. Mae hefyd yn rhanbarth amlieithog. Yng ngogledd orllewin Cymru y ceir y ganran uchaf o drigolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg yng Nghymru, tra bod y ganran honno yng ngogledd ddwyrain Cymru ymhlith yr isaf gyda niferoedd uwch o ieithoedd eraill yn cael eu siarad mewn cymunedau lleol. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sef bwrdd iechyd mwyaf Cymru, sy’n gwasanaethu’r rhanbarth ac mae ein poblogaeth yn cael mynediad i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae gennym ddwy brifysgol, sef Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill ar draws Gogledd Cymru i siapio addysg, ymchwil, a gofal iechyd mewn ffordd sy’n diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth a’n daearyddiaeth unigryw.
Mae Cyfnewidfa Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru wedi'i sefydlu fel y gall, clinigwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ymgysylltu â’i gilydd. Mae ein ffocws yn eang, ac yn ymgorffori anghenion cyfathrebu, lleferydd ac iaith ar draws y rhychwant oes. Cawn ein harwain gan sawl agenda o eiddo’r llywodraeth gan gynnwys y Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a rhaglen Plant Iach Cymru, sy’n gweithio i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cyrraedd cerrig milltir allweddol o ran eu datblygiad ac yn barod gogyfer â’r ysgol. Nod y Gyfnewidfa yw meithrin cydweithrediad trwy gyfathrebu parhaus a chynhadledd flynyddol.
Cynhaliwyd ein cynhadledd gyntaf ar 17 Hydref 2023 ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhelir cynhadledd 2024 ym Mhrifysgol Wrecsam ar y thema: 'Cychwyn ar ymchwil ac arloesi'. Welwn ni chi yno!
Y partneriaid sy’n ein cefnogi
Mae'r gyfnewidfa wedi'i datblygu mewn cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Wrecsam.
Prifysgol Bangor - yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol
Mae nifer o ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor sy'n gwneud ymchwil yn ymwneud ag iaith, lleferydd a chyfathrebu. Dyma gartref Canolfan Dyslecsia Miles, lle gwneir ymchwil i sylfaen niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu a lle darperir asesiadau a chefnogaeth ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion. Ceir yma ystod helaeth o gyfleusterau ar gyfer astudiaethau ymddygiadol, ffisiolegol a niwrowyddonol, gan gynnwys canolfan MRI 3T newydd sbon yn benodol ar gyfer ymchwil, cyfleusterau ysgogi’r ymennydd, a chyfleusterau cyfrifiadura soffistigedig.
Prifysgol Wrecsam – BSc Therapi Iaith a Lleferydd
Bu galw ers tro byd yng Ngogledd Cymru am y cwrs gradd BSc (Anrh.) mewn Therapi Iaith a Lleferydd y mae Prifysgol Wrecsam yn ei gynnig. Bydd y cwrs yn meithrin y genhedlaeth nesaf o Therapyddion Iaith a Lleferydd ac yn cynyddu’r gweithlu yn y rhanbarth, gan gynnwys graddedigion Cymraeg iaith gyntaf. Mae’r cwricwlwm yn newydd sbon ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes felly caiff myfyrwyr eu hannog i ymgysylltu’n barhaus â’r sylfaen dystiolaeth sy’n llywio ein gwybodaeth am gyflyrau sy’n effeithio ar leferydd, iaith a llyncu, yr arferion clinigol gorau a’r effaith ar yr unigolyn drwy gydol ei oes. Bydd y myfyrwyr yn rhan o glwb cadw dyddlyfr a byddant yn gweithio tuag at broject ymchwil yn eu blwyddyn olaf. Mae Cyfnewidfa Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru yn gyfle gwych i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth sy’n rhannu dyhead i wella bywydau.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Therapi Iaith a Lleferydd
Y Bwrdd Iechyd yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gyda gweithlu o fwy na 19,000 ac yn gwasanaethu poblogaeth o fwy na 700,000 o bobl ar draws chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam).
Caiff y gwasanaethau therapi iaith a lleferydd eu trefnu ar draws Gogledd Cymru o fewn 3 Cymuned Iechyd Integredig y Bwrdd Iechyd – y Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint), y Canol (Conwy a Sir Ddinbych) a’r Gorllewin (Ynys Môn a Gwynedd). Maent yn darparu gwasanaethau ar hyd y rhychwant oes: mae eu timau o therapyddion iaith a lleferydd ac o hyfforddwyr technegol therapi iaith a lleferydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg i wella bywydau pobl ag anghenion cyfathrebu a llyncu.
Lluniau o Aelodau'r Pwyllgor
Cylchlythyrau
Check back soon for the North Wales Speech and Language Exchange Newsletter for Summer 2023
Cysylltwch â ni
E-bost: NWSLE@bangor.ac.uk