Students Walking 1 (Courtyard) - 25.10.2022 - Prospectus Shoot.mp4

Astudiaethau Ôl-raddedig

Creu dyfodol diogel gyda chwrs ôl-raddedig sy'n cyd-fynd â'ch bywyd.

Ar y dudalen hon:

Pa Fath o Radd Hoffech ei Hastudio?

Wrth ystyried eich opsiynau ôl-raddedig, mae dau brif lwybr i’w harchwilio:gradd ôl-raddedig hyfforddedig neu radd drwy ymchwil. Edrychwch ar eu nodweddion allweddol i ganfod pa fath sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau.

Cyrsiau Ôl-raddedig Hyfforddedig

  1. Dysgu manwl mewn darlithoedd a seminarau
  2. Marc terfynol yn ddibynnol iawn ar asesiadau amrywiol
  3. Pwyslais ar ennill sgiliau
  4. Agweddau o ymchwil annibynnol

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y graddau ôl-raddedig hyfforddedig canlynol; MSc, MA, MBA, MMus, LLM, TAR.

CHWILIO CYRSIAU ÔL-RADD HYFFORDDEDIG

Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig

  1. Yn canolbwyntio ar ymchwil annibynnol
  2. Marc terfynol yn ddibynnol iawn ar draethawd hir
  3. Cyfraniadau gwreiddiol i'r maes
  4. Llawer o ymreolaeth

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y graddau ymchwil ôl-raddedig canlynol; LLM, PhD, MPhil, MRes, Doethuriaeth Broffesiynol, MScRes, MARes, DHealthCare, EdD, MMusRes.

CHWILIO CYRSIAU YMCHWIL ÔL-RADDEDIG

Bangor University Staff welcoming prospective students at an Open Day

Diwrnod Agored Ôl-raddedig 2024

Diddordeb astudio gradd ôl-raddedig hyfforddedig neu ymchwil gyda Phrifysgol Bangor ac eisiau gwybod mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi?

Dyma beth i'w ddisgwyl yn un o'n Diwrnodau Agored ar y campws

💬Trafod eich dewisiadau gyda staff
💳Gwybodaeth am sut i ariannu eich cwrs
👀Darganfod y gefnogaeth fydd ar gael i chi fel myfyriwr ôl-radd

Mwy am Brifysgol Bangor

Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr ôl-raddedig sydd:

  • Yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
  • Yn gwneud cais ar gyfer cwrs a gynhelir ar ein campws ym Mangor
  • Yn llwyddo i ennill statws diamod cyn 7 Awst (gall myfyrwyr rhyngwladol sydd â llythyr o gynnig amodol wneud cais hefyd)
  • Yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 7 Awst

Sylwch, mae ein llety i ôl-raddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, en-suite, fflatiau stiwdio a thai yn y dref. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 7 Awst, gallwch ddewis pa ystafell fyddai orau gennych.

Ym Mhrifysgol Bangor, mae yna rywbeth i fyfyrwyr o bob math, sy’n rhoi profiad unigryw a phersonol i bawb. Mae rhai agweddau ar fywyd myfyriwr sy'n helpu i greu profiad prifysgol yn cynnwys:

  • 150 o glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli i gyd am ddim i ymuno â nhw.
  • Amrywiaeth o fariau, clybiau, a chaffis at ddant pob math o chwaeth.
  • Digon o gyfleoedd i archwilio'r ardal gyfagos rhwng y môr a’r mynyddoedd.
  • Cyfleusterau chwaraeon rhagorol gan gynnwys;
    • Cae 3G wedi'i ardystio gan FIFA a Rygbi'r Byd
    • Caeau glaswellt awyr agored
    • Neuaddau chwaraeon
    • Campfeydd gan gynnwys campfa berfformio
    • Cyrtiau sboncen
    • Wal ddringo aml-lwybr
    • Trac athletau

Mae gan Brifysgol Bangor lawer o adnoddau arbenigol sy'n gysylltiedig â phynciau penodol ac sy'n wych o ran ategu gweithgareddau ymchwil. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys;

  • Llong ymchwil
  • Sganiwr MRI
  • Siambr hinsoddol
  • Amgueddfa Hanes Natur
  • Gardd Fotaneg

Mae gan Brifysgol Bangor ystod drawiadol o adnoddau a chyfleusterau dysgu, gan gynnwys;

  • Casgliad helaeth o lyfrau a chylchgronau
  • Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr
  • Ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr
  • Mannau dysgu cymdeithasol
  • Cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a gofalu am ein myfyrwyr. Mae arnom ni eisiau sicrhau y byddwch yn ffynnu ym mhob ffordd yn ystod eich cyfnod yma. Dyma rai o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr;

  • Arweinwyr Cyfoed a Thiwtoriaid Personol
  • Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr
    • Cyngor ariannol
    • Cefnogaeth iechyd a lles
    • Cyngor ar lety preifat
    • Cefnogaeth dyslecsia
    • Chwnsela
  • Cymorth Anabledd
  • Sgiliau Astudio

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?