Os ydych yn dod i Fangor ar gyfer Diwrnod Agored neu os ydych yn dod am wyliau gyda'ch teulu, mae yna ddigon o lefydd i aros.
Y Ganolfan Rheolaeth
Mae Canolfan Rheolaeth y Brifysgol wedi derbyn y raddfa 4 seren gan Fwrdd Croeso Cymru ac yn cynnig 57 o ystafelloedd gwely en-suite o safon uchel. Mae'n cynnig llety drwy gydol y flwyddyn.
Llety yn y Brifysgol
Wedi'i lleoli yng nghanol pentref Ffriddoedd, mae ein llety myfyrwyr wedi ei graddio yn 4* gan Groeso Cymru, ac yn berffaith i'r rheini ohonoch sy'n edrych i gael profiad llawn o Brifysgol Bangor.
Mae ein llety campws yn sicr o roi blas i chi o fywyd yn y Brifysgol am gyn lleied â £28.50 y noson.
Llefydd Lleol
Am lefydd lleol i aros, gellwch edrych ar wefan Darganfod Cymru.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Map o Fangor

Bangor a'r ardal
Pam na wnewch chi wneud y mwyaf o'ch Diwrnod Agored a chymryd y cyfle i ymweld â'r ardal gyfagos?