Diweddariad ar y Project
Mae Prifysgol Bangor a Gillespies wedi bod yn cydweithio ar greu gweledigaeth newydd i Barc y Coleg. Mae’r byrddau ymgynghori hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ers y digwyddiad ymgysylltu cymunedol diwethaf, maent yn tynnu sylw at y prif heriau a’r cyfleoedd i’r parc ac yn esbonio’r syniadau cychwynnol y bwriedir dechrau arnynt ar y safle yn 2024 (yn amodol ar ganiatâd cynllunio).
Mae Parc y Coleg yn fan gwyrdd pwysig wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, sy’n cysylltu’r brifysgol â’r ddinas, ond mae wedi cael ei esgeuluso a heb gael digon o ddefnydd. Yn hanesyddol, mae’r parc wedi cael ei drin fel llecyn ar wahân gyda’i ddefnydd a’i ddiben yn aneglur. Y weledigaeth i Barc y Coleg yw ei wneud yn lle mwy croesawgar i bawb ei fwynhau. Rydym yn bwriadu agor yr ardal hon a chreu man gwyrdd croesawgar yn ninas Bangor. Gyda chyfleusterau newydd, gallai Parc y Coleg gael ei drawsnewid yn barc addysg ac adloniant llawn bywyd a chyffro.
Cynnydd Diweddar
- Cwblhawyd arolygon proffesiynol o goed ac ecoleg
- Mae’r gwaith cychwynnol o deneuo a rheoli’r coed wedi dechrau, yn seiliedig ar gyngor gan arbenigwyr coedyddiaeth
- Adeiladwyd grisiau i ddarparu cyswllt allanol rhwng lefel 4 Pontio â Ffordd Penrallt Isaf
- Cynhaliwyd asesiadau strwythurol o waliau cynnal
- Diweddarwyd cynigion cynllun mewn ymateb i adborth a gafwyd gan randdeiliaid
- Addaswyd cynigion cynllun i adlewyrchu’r pwysau cyllidebol sydd wedi dod yn sgil chwyddiant costau