Canfyddiadau Cymunedol o Brojectau Mannau Gwyrdd Awdurdodau Lleol

Gan ddefnyddio’r Rhyl yng Ngogledd Cymru fel astudiaeth achos, bu’r prosiect hwn yn modelu manteision seilwaith gwyrdd (GI) presennol ac arfaethedig ac yn asesu canfyddiadau’r gymuned o’r newidiadau amgylcheddol hyn sy’n digwydd yn eu hardal.

Ariannwyd yr ymchwil hwn gan grant RECLAIM Network Plus a ariennir gan UKRI (EP/W034034/1).

Ynglŷn â’r ymchwil

Fel rhan o’i Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol, mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu ymyriadau seilwaith gwyrdd trefol (GI) gan gynnwys plannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Bu’r tîm ymchwil o Brifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i fodelu manteision GI presennol ac arfaethedig yn y Rhyl ac asesu canfyddiadau’r gymuned o’r newidiadau amgylcheddol hyn sy’n digwydd yn eu cymdogaeth.

Ewch i wylio'r fideo o'r prosiect:

  • Modelu a meintioli buddion cynlluniau GI.
  • Casglu a dadansoddi safbwyntiau a chanfyddiadau pobl o ymyriadau mannau gwyrdd a ddarperir gan gynghorau lleol.
  • Cymharu barn pobl o bob rhan o’r DU â chanfyddiadau trigolion y Rhyl.
  • Darganfod a yw'r math o GI newydd yn effeithio ar ei dderbynioldeb ac ymgysylltiad pobl.
  • Darganfod a yw darparu gwybodaeth benodol am gyd-fuddiannau yn newid canfyddiadau ac ymgysylltiad.
  • Cyfrifo gwerth economaidd hectar o goed yn seiliedig ar ddata Sir Ddinbych ar gyfer sŵn, carbon a llygredd aer.
  • Datblygu arolwg pum munud ar-lein i gasglu data cymdeithasol, gan ddychwelyd 1866 o ymatebion cynrychioliadol cenedlaethol a 60 o ymatebion gan drigolion y Rhyl.
  • Cynnal 28 o gyfweliadau unigol ac un grŵp ffocws gyda thrigolion y Rhyl i gael mewnwelediad pellach.
  • Rhoi gwybodaeth am fuddion ychwanegol i hanner yr arolwg a’r cyfranogwyr a gyfwelwyd er mwyn dadansoddi a oedd darparu ffeithiau buddion ar y cyd yn effeithio ar ganfyddiadau ac ymatebion.
  • Yn seiliedig ar ddata Sir Ddinbych datgelodd y modelau gwasanaeth ecosystem y gall un hectar o goed ddarparu gwerth economaidd o hyd at £3,669 ar gyfer sŵn, llygredd aer a charbon, o'u plannu yn y mannau cywir.
  • Roedd mwyafrif helaeth y bobl a holwyd (> 70%) ac a gyfwelwyd (> 80%) o blaid cynlluniau GI (yn yr achos hwn, plannu coed a dolydd blodau gwyllt).
  • Nid oedd gwybodaeth ychwanegol am y buddion y maent yn eu darparu wedi newid eu canfyddiadau am goed a dolydd blodau gwyllt.
  • Iechyd a lles corfforol a meddyliol oedd y manteision a nodwyd amlaf gan bobl a holwyd neu a gyfwelwyd. Roedd manteision iechyd a lles yn bwysig i 100% o'r rhai a gyfwelwyd.
  • Fe wnaethom gyfuno’r canfyddiadau yma i mewn i adroddiad ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych a briff polisi.

Gweithdai

Dydd Llun 26 Chwefror 2024, 10am i 3.30pm.

Canolfan Celfyddydau ac Arloesedd Pontio, Prifysgol Bangor.

Fe wnaethom drefnu gweithdy i adeiladu ar y mewnwelediadau a gafwyd yn ein prosiect a ariannwyd gan RECLAIM Network Plus yn y Rhyl, Gogledd Cymru. Ffocws y digwyddiad oedd unrhyw seilwaith gwyrdd a glas mewn trefi a dinasoedd. Pwrpas y gweithdy oedd rhannu canfyddiadau astudiaeth y Rhyl wrth agor y sgôp yn ehangach i gynnwys GI sydd o ddiddordeb i gynghorau a chymunedau. Archwiliodd anghenion, blaenoriaethau, canfyddiadau a hoffterau rhanddeiliaid. Roedd cynrychiolaeth academaidd yn cynnwys Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam. Roedd y sector cyhoeddus yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ddinbych. Roedd grwpiau cymunedol yn cynnwys GwyrddNi, Ffrindiau Pwllheli, Cwlwm Seiriol, Bwyd Bendigedig y Felinheli ac aelodau o'r cyhoedd.

Ein cwestiwn arweiniol ar gyfer y digwyddiad

C: Beth yw barn pobl ar draws gwahanol lefelau o brofiad am reoli mannau gwyrdd ar lefel cyngor lleol, trwy lens iechyd a lles?

  • Beth yw eich heriau?
  • Ble rydyn ni eisiau bod?
  • Sut gallwn ni gyrraedd yno?

Galluogodd y gweithdy ni i ddod â lleisiau o wahanol sectorau a phrofiad ynghyd, i drafod pwnc pwysig mannau gwyrdd ac iechyd a lles. Gallwch ddarllen mwy am y gweithdy hwn ar wefan RECLAIM Network

 Y Tîm Ymchwil

Prif Ymchwilydd

Llun staff o Thora Tenbrink

Yr Athro Thora Tenbrink, Prifysgol Bangor

Cyd-Ymchwilwyr

Dyn yn gwenu wrth dynnu llun

Athro Laurence Jones, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU

Ymchwilwyr

Llun o Sofie Roberts

Dr Sofie Roberts, Prifysgol Bangor

Llun o ddyn

Dr David Fletcher, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU

Dynes yn gwenu o flaen coed

Alice Fitch, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU

Llun o Danial Wyn Owen

Danial Wyn Owen, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU

Edrych ymlaen

Rydym am ddatblygu mwy o ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n archwilio cyd-fuddiannau iechyd a llesiant mentrau Sero Net a sut mae cymunedau’n ymgysylltu â chynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, cysylltwch â Thora (t.tenbrink@bangor.ac.uk) neu Sofie (s.a.roberts@bangor.ac.uk).

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?