Canfyddiadau o newid hinsawdd a chyfraith amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig a Ffrainc: Cymhariaeth
Gwahaniaethau mewn cyfreithiau amgylcheddol
Y Deyrnas Unedig (ar ôl Brexit) | Ffrainc (fel rhan o'r UE) |
---|---|
|
|
Arolwg ar ganfyddiadau o newid hinsawdd a chyfraith amgylcheddol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu barn am fygythiad newid yn yr hinsawdd, sylw yn y cyfryngau, yr effaith ar eu bywydau, parodrwydd i gefnogi eu gwlad i ddod yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd – ac am eu barn am y materion cyfreithiol pan ceir gwahaniaeth rhwng cyfreithiau gwledydd gwahanol.
O'r 26 o ymatebwyr Saesneg eu hiaith, roedd 15 yn drigolion y Deyrnas Unedig (11 â chenedligrwydd y Deyrnas Unedig) a'r gweddill yn byw yn rhywle arall. • O’r 23 o ymatebwyr Ffrangeg eu hiaith, roeddent i gyd yn drigolion Ffrainc â chenedligrwydd Ffrengig.
Roeddent yn ystyried bod cyfraith amgylcheddol yn arf effeithlon i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac roedd yr ymatebwyr yn cytuno y dylai dinasyddion allu dwyn achos cyfreithiol yn erbyn eu llywodraeth am beidio â gweithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Er bod gan Ffrainc (yn unol â’r UE yn gyffredinol) gyfreithiau llymach na’r Deyrnas Unedig, ceir consensws sylweddol ymhlith ymatebwyr Ffrainc bod cyfreithiau o’r fath yn angenrheidiol. Roedd ymatebwyr y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu llai o ymddiriedaeth yn y llywodraeth a thueddiad i ystyried bod y cyfreithiau presennol yn annigonol.
Canlyniadau
Roedd yr ymatebwyr yn cytuno:
- bod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad eithafol i'r blaned
- nad yw'n cael digon o sylw
- eu bod eisiau i’w gwlad ddod yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, hyd yn oed pe bai’n golygu gorfod aberthu rhai pethau eu hunain
- y dylid dal eu llywodraethau yn atebol am eu methiannau mewn materion amgylcheddol
Efallai na fydd deddfau amgylcheddol llym yn cael eu hystyried yn fygythiad i ryddid os yw pobl yn cydnabod eu gwerth a bod ar y byd eu hangen er mwyn dyfodol y blaned.