Fy ngwlad:
Parc Cenedlaethol Eryri

Gwella cyfranogiad cymunedau mewn projectau carbon isel

Astudiaeth o gynulliadau hinsawdd gogledd orllewin Cymru

Ariannwyd y project trwy Gronfa Gatalydd LCEE (gyda chefnogaeth Cronfeydd Strwythurol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Rhwydwaith Arloesedd Cymru).

 

 

Y nod oedd nodi’r materion hysbys sy’n ymwneud ag ymgysylltu a ffyrdd o’u datrys, yn ogystal â chanfod heriau a bylchau newydd sydd eto i’w hystyried. Buom yn dadansoddi’r cynulliadau GwyrddNi i nodi beth oedd yn ysgogi neu’n rhwystro’r ymgysylltu. Cafwyd cipolwg ar anghenion a safbwyntiau pob un o’r pum cymuned a gymerodd ran ym mhroses y cynulliadau.

Roedd yr heriau arweiniol yn cynnwys:

1) Sut mae sicrhau aelodaeth gynrychioliadol, gan gynnwys grwpiau ymylol sy'n amharod i ymgysylltu - gan sicrhau ymdeimlad o gyd berchnogaeth ar gyfer y datblygiadau neu'r projectau cymunedol y cytunwyd yn eu cylch.

2) Cynnal cyfarfodydd cynulliadau fel bod pob llais yn cael ei glywed a gan osgoi dadleuon tanllyd heb ganlyniadau adeiladol, gan gydnabod gwahanol safbwyntiau, ieithoedd a chefndiroedd cysyniadol.

3) Manteisio ar nodweddion penodol ardal a chysylltiad pobl â lle. Mae pob lle’n cynnig gwahanol wasanaethau ecosystem a hanesion lleol, sy'n effeithio ar gysylltiadau pobl â lle a disgyrsiau cymunedol. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio i’r naill gymuned yn gweithio yn unman arall.

 

  • Cyfathrebu helaeth rhwng rhanddeiliaid ac academyddion
  • Adolygiad helaeth o bapurau academaidd a llwyd
  • Mynychu dau Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd i wrando ar drafodaethau’r cyfranogwyr
  • Dadansoddi data holiadur cyn-cynulliad a gasglwyd gan y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol

 

  • Er bod y rhai sy’n ymgysylltu’n amlwg yn pryderu am faterion sy’n ymwneud â’r hinsawdd, efallai eu bod yn fwy pryderus am faterion eraill, yr ymddengys nad oes cysylltiad rhyngddynt, sef y Gymraeg yn yr achos hwn.
  • Gellir gwella’r ymgysylltu ynghylch yr hinsawdd trwy fanteisio ar ddisgyrsiau cymunedol lleol a’r dreftadaeth ddiwylliannol, a phlethu’r gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn y naratifau cymunedol ehangach.
  • Gellir gwella ymgysylltiad cymunedau â’r gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd trwy fframio’r negeseuon yng nghyd-destun ymlyniad wrth le a gofyn i bobl ystyried y newid yn yr hinsawdd o safbwynt eu ‘milltir sgwâr’.
  • Gall hwyluso arbenigol fod yn allweddol i gyflawni canlyniadau adeiladol.

 

 

Y Tîm Ymchwil

Prif Ymchwilydd

Llun staff o Thora Tenbrink

Thora Tenbrink, Prifsygol Bangor

Cyd-ymchwilydd

Image of Grant Peisley from Datblygiadau Egni Gwledig

Grant Peisley, Datblygiadau Egni Gwledig

Swyddog Ymchwil

Llun o Sofie Roberts

Sofie Roberts, Prifysgol Bangor

Edrych ymlaen a’r ymchwil at y dyfodol

  • Mynd i'r afael â'r her o gael y cyhoedd i gymryd rhan a chymryd perchnogaeth dros ddatblygiadau cynaliadwy
  • Datblygu dealltwriaeth ehangach o’r modd y bydd cymunedau’n synied am atebion a osodir o'r brig i lawr a’u petruster yn eu cylch
  • Beth yw’r ffactorau treftadol a diwylliannol allweddol (fel ymlyniad wrth le a hunaniaeth ieithyddol) sy’n ysgogi unigolion a chymunedau mewn gwahanol ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig i gymryd diddordeb mewn cynaliadwyedd amgylcheddol?
  • Sut y gall newidiadau yn y disgwrs perthnasol, megis fframio negeseuon pwrpasol, sy’n seiliedig ar le penodol yn hytrach na chyfeirio at y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, helpu annog pobl i ymgysylltu?


Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â ni, cysylltwch â Thora (t.tenbrink@bangor.ac.uk) neu Sofie (s.a.roberts@bangor.ac.uk)